Mae’n syniad da gwneud pethau sy’n eich helpu chi i deimlo’n ddigynnwrf bob dydd, yn hytrach na phan rydych yn ‘drist’ neu’n ‘aflonydd’ yn unig.
- Meddyliwch am y pethau y gallwch chi eu gwneud i fod yn garedig â chi’ch hun – beth sy’n eich helpu chi i deimlo’n dawel eich meddwl?
- Mae pobl yn hoffi ymlacio mewn ffyrdd gwahanol. Beth am roi cynnig ar wneud ymarferion ymlacio ar YouTube? Mae’n lle da i gychwyn.
- Mae llawer o bobl yn hoffi Meddylgarwch, ac mae ymchwil wedi profi ei fod yn ffordd dda o ofalu amdanoch chi a’ch teimladau.
- Mae rhai pobl o’r farn mai siarad â phobl eraill am eu pryderon yw’r ffordd orau o deimlo’n fwy llonydd.