Neidio i'r prif gynnwy

Plant a phobl ifanc

Efallai bod y byd yn teimlo’n lle rhyfedd iawn ar hyn o bryd oherwydd y Coronafeirws.

Efallai eich bod chi’n teimlo llawer o bethau gwhanol, a does dim byd o’i le ar hynny. Y newyddion da yw bod yna bethau y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu i deimlo’n well.

A hefyd, mae pobl ar gael y gallwch chi siarad â nhw dros y ffôn neu ar-lein, os oes angen.   

 

Cyngor arall ar-lein

Sut i ymdopi â'r 'normal' newydd
Blog sy’n cynnwys cyngor gan y seicolegydd, Liz Gregory, ar sut i ymdopi â’r ‘normal’ newydd.

Blogiau YoungMinds
Llawer o flogiau sy’n darparu cymorth i bobl ifanc am y ffordd maen nhw’n teimlo oherwydd y Coronafeirws.

Mind Cymru
Gwybodaeth i bobl ifanc sy’n poeni am y Coronafeirws ac eisiau gwybod sut i ymdopi â’r newidiadau yn eu bywydau.

HWB Cymru - Pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc
Yn y rhestr chwarae hwn, cewch adnoddau sy’n darparu awgrymiadau defnyddiol, cyngor ac arweiniad ar y coronafeirws a ffyrdd y gallwch gefnogi eich iechyd meddwl.

Comisiynydd Plant Cymru: Coronafeirws – Hwb Gwybodaeth i Blant a Theuluoedd
Cyngor cyffredinol, syniadau a gweithgareddau i’ch cadw chi’n brysur.

Ap MeeTwo
Gofod diogel i bobl ifanc yn eu harddegau i drafod unrhyw beth sy’n effeithio ar eu bywydau.
 

Siaradwch â rhywun

Llinell Gymorth C.A.L.L.
Llinell gymorth iechyd meddwl ddynodedig i Gymru. Ffoniwch 0800 132 737 neu tecstiwch y gair ‘help’ at 81066. 

MEIC
Cymorth i blant a phobl ifanc (hyd at 25 oed) rhwng 8am a chanol nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â nhw am ddim trwy ffonio 080880 23456, testun 84001, neu drwy anfon neges uniongyrchol trwy’r wefan.

Childline
Ffoniwch 0800 1111 am ddim, anfonwch neges e-bost neu ewch i’r wefan i gael sgwrs ar-lein.

PAPYRUS
Cymdeithas atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc. HOPELINEUK 0800 068 4141 (dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 10pm, a 2pm i 10pm ar benwythnosau a gwyliau banc).