Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu sut i ailfeddwl

Mae ein meddyliau yn dda iawn am bryderu - pan mae pethau yn wahanol neu’n ansicr, gall ein meddyliau fynd yn sownd.

  • Ceisiwch osgoi sïon a darllenwch wefannau y gallwch ymddiried ynddynt yn unig. Mae newyddion y BBC a Ffeil yn dda o ran darparu newyddion am COVID-19.
  • Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i chi deimlo? Efallai eu bod yn gwneud i chi deimlo’n well neu’n waeth, felly cadwch lygad ar yr amser rydych yn ei dreulio’n syllu ar y sgrin.
  • Canolbwyntiwch eich meddyliau arnoch chi a’r hyn y gallwch chi ei wneud bod dydd. Peidiwch â theimlo’n euog os nad ydych yn cadw at eich cynlluniau yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.
  • Gwnewch rywbeth a fydd yn tynnu’ch sylw – rhywbeth rydych chi’n dda am ei wneud neu’n ei fwynhau.