Neidio i'r prif gynnwy

Treftadaeth iach: 20 mlynedd o Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru

20 mlynedd mewn bodolaeth. Cyflwynwyd 202 o Wobrau Ansawdd Cenedlaethol i ysgolion yng Nghymru ar gyfer iechyd a llesiant eithriadol. Yn 2019 mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru ar bwynt trawiadol yn ei hanes.

Cafodd Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru ei lansio ym mis Medi 1999 i annog y gwaith o ddatblygu cynlluniau ysgolion iach lleol o fewn fframwaith cenedlaethol. Cyn hyn, arweiniodd cyfranogiad Cymru yn Rhwydwaith Ysgolion Hybu Iechyd Ewropeaidd at ddatblygu Cynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru (a gafodd ei fireinio'n ddiweddarach i rwydwaith o gynlluniau lleol).

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod bod Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn chwarae rôl allweddol o ran hybu iechyd plant a phobl ifanc, ac mae'r cynllun wedi'i gyflwyno ledled Cymru ers 2000. Darperir y Cynllun gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'n defnyddio dull ysgol gyfan i hyrwyddo iechyd a llesiant. Mae'n gweithio ar draws 22 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru ac mae'n hybu iechyd pawb sy'n dysgu, yn gweithio ac yn chwarae yn yr ysgol.

Mae dull y Cynllun yn mynd i'r afael ag ethos, polisïau ac arferion pob ysgol, tra'n canolbwyntio hefyd ar beth sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth ac ystyried y gymuned y tu hwnt i'r ysgol. Mae'n cynorthwyo ysgolion i alluogi disgyblion a staff i gymryd rheolaeth dros agweddau ar amgylchedd yr ysgol sy'n dylanwadu ar eu hiechyd yn ogystal ag addysgu disgyblion yn ffurfiol am sut i fyw bywydau iach. 

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru:

“Mae'r Cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol; mae nifer y rhai sydd wedi manteisio arno wedi bod yn aruthrol gyda thros 99% o ysgolion yn cymryd rhan weithredol yng Nghymru. 

“Mae 20 mlynedd yn garreg filltir bwysig ac mae'n dangos mor hanfodol yw cefnogaeth barhaus ysgolion o ran sicrhau y gall pobl ifanc wneud dewisiadau iach. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru Iachach i wella iechyd a llesiant gan ganolbwyntio ar atal.”

Meddai Gemma Cox, Prif Ymarferydd ar gyfer Lleoliadau Addysgol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae hon yn amlwg yn garreg filltir fawr i Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru. Mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gyfartal ag ysgolion i wella iechyd a llesiant ein plant yn y dyfodol. Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau mewn ffordd bwrpasol, gallwn greu Cymru iachach, hapusach a thecach.”

Wedi'i gyflwyno yn 2009, y Wobr Ansawdd Genedlaethol wedi'i hasesu'n annibynnol yw'r anrhydedd uchaf y gall ysgol (meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig) ei chael drwy'r Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru. Mae'r Wobr yn cydnabod rhagoriaeth mewn arfer ysgol gyfan ar draws nifer o themâu sy'n gysylltiedig ag iechyd gan gynnwys:
•    Bwyd a ffitrwydd (maeth a gweithgarwch corfforol)
•    Iechyd a llesiant meddwl ac emosiynol, gan gynnwys llesiant staff
•    Datblygiad personol a pherthnasoedd, gan gynnwys addysg rhyw a pherthnasoedd
•    Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol, smygu a defnyddio a chamddefnyddio cyffuriau (cyfreithiol, anghyfreithlon a phresgripsiwn)
•    Yr amgylchedd, gan gynnwys eco-fentrau a gwella'r ysgol a'r amgylchedd ehangach
•    Diogelwch, gan gynnwys amrywiaeth o bynciau fel amddiffyn plant, diogelwch yn yr haul, diogelwch ar y rhyngrwyd, a chymorth cyntaf
•    Hylendid ar draws lleoliadau ysgol a lleoliadau nad ydynt yn rhai ysgol

Hyd yma, mae cyfanswm o 202 o Wobrau Ansawdd Cenedlaethol wedi'u cyflwyno i ysgolion Cymru ar gyfer iechyd a llesiant eithriadol.

Meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru: 

“Mae ymarfer a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw mewn ysgolion yn cael effaith gadarnhaol ar gyflawniad academaidd a llesiant hirdymor. Llongyfarchiadau i'r holl ysgolion sy'n cael eu cydnabod am eu gwaith da drwy gyflawni Gwobrau Ansawdd Cenedlaethol.”

Meddai Sarah Andrews, Pennaeth y Rhaglen – Lleoliadau Iach, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Gall Cymru ymfalchïo bod bron pob un o'i hysgolion bellach yn rhan o'r daith hon i fod yn lleoedd gwirioneddol iach, a bod mwy na 200 o ysgolion eisoes wedi ennill y wobr lefel uchaf ar gyfer y gwaith hwn. Rydym yn disgwyl y bydd iechyd a llesiant plant yn parhau i gael budd o hyn am lawer o flynyddoedd i ddod.”