Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio Coluddion Cymru yn gwahodd pobl 58 a 59 oed i gael eu sgrinio am y tro cyntaf

Cyhoeddwyd: 11 Hydref 2021

O fis Hydref 2021, bydd rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru yn dechrau gwahodd pobl 58 a 59 oed am y tro cyntaf i sgrinio canser y coluddyn. 

Bydd y rhaglen yn parhau i wahodd y rhai 60 i 74 oed sy'n cael eu gwahodd ar hyn o bryd. 

Mae'r dystiolaeth yn dangos y byddai sgrinio pobl ar oedran iau yn galluogi i fwy o ganserau'r coluddyn gael eu nodi ar gam cynharach, lle mae'r driniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol a gwella'r cyfleoedd goroesi. 

Bydd dynion a menywod, rhwng 58 a 74 oed, yn cael eu gwahodd am sgrinio'r coluddyn gyda phecyn prawf am ddim gan y GIG yn cael ei anfon i'w cartrefi bob dwy flynedd. 

Mae Sgrinio Coluddion Cymru bellach yn defnyddio'r pecyn Prawf Imiwnocemegol mewn Carthion (FIT) sy'n haws i bobl ei ddefnyddio a dim ond un sampl o garthion sydd ei angen. Mae gwahoddiadau a phecynnau prawf yn cael eu hanfon drwy'r post i'w cartref a gofynnir i gyfranogwyr gwblhau'r pecyn prawf a'i ddychwelyd i Sgrinio Coluddion Cymru yn yr amlen ragdaledig gan ddefnyddio system bost y Post Brenhinol. 

Meddai Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein rhaglenni sgrinio yng Nghymru yn parhau i adfer yn dilyn effaith y pandemig ac rydym yn falch ein bod bellach yn gallu dechrau cynnig sgrinio coluddion i bobl iau. 

“Mae sgrinio coluddion yn lleihau'r risg o bobl yng Nghymru yn marw o ganser y coluddyn a bob blwyddyn mae'r rhaglen yn profi dros 150,000 o becynnau ac o'r rhai rydym yn gallu nodi cannoedd o gyfranogwyr y gellir cynnig ymchwiliad neu driniaeth bellach iddynt.” 

“Byddwn yn annog y rhai sydd newydd ddod yn gymwys i ddarllen y pecyn gwybodaeth sy'n dod gyda'ch pecyn profi yn ofalus, i'ch helpu i wneud dewis gwybodus ynghylch cymryd rhan mewn sgrinio'r coluddyn.” 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Byddwn yn annog pawb sy'n gymwys – yn enwedig pawb sy'n cael eu gwahodd i gymryd rhan am y tro cyntaf – i gymryd rhan. Mae'n brawf syml i'w wneud ac mae digon o wybodaeth yn y pecyn prawf. 

“Cymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio yw un o'r pethau y gallwn ei wneud i ofalu am ein hiechyd.”