Neidio i'r prif gynnwy

Mae newid ymddygiad yn allweddol i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd

Cyhoeddwyd: 22 Tachwedd 2022

Mae gwneud newidiadau ymddygiad cadarnhaol o ran yr hinsawdd mor normal, hawdd, deniadol ac arferol â phosibl, yn allweddol i ysgogi newid parhaus a lliniaru effeithiau'r argyfwng hinsawdd, yn ôl canllaw newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Wedi'i lansio fel rhan o Wythnos yr Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru (21 -23 Tachwedd), mae ‘Ymateb i'r argyfwng hinsawdd: cymhwyso gwyddor ymddygiad’ wedi'i gynllunio i gynorthwyo gwneuthurwyr polisi a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i greu ymyriadau effeithiol er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.   

Mae llawer o'r ymddygiad sy'n cael effeithiau negyddol ar yr hinsawdd yn digwydd yn rheolaidd ac yn ailadroddus (fel cymudo, gwaredu gwastraff, a siopa), ac maent wedi dod yn awtomatig i lawer (a elwir hefyd yn arferion) sy'n aml yn anodd eu newid gyda dulliau syml/traddodiadol. 

Meddai Oliver Williams, Cofrestrydd Arbenigol Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

 “Amcangyfrifir bod mwy na 40 y cant o'n gweithredoedd byw bob dydd yn arferion, ac felly nid ydynt yn benderfyniadau ymwybodol mewn gwirionedd.  

“Yn aml, nid yw mabwysiadu neu ledaenu ymddygiad hinsawdd yn araf oherwydd diffyg ymwybyddiaeth neu wybodaeth, neu hyd yn oed ddiffyg cymhelliant neu fwriad, ond yn hytrach oherwydd ein dull o darfu ar arferion presennol, neu alluogi arferion newydd yn ddigonol” 

 “Mae gwneud ymddygiad hinsawdd cadarnhaol yn normal, yn hawdd, yn ddeniadol ac yn rheolaidd (NEAR) yn debygol o fod yn llawer mwy effeithiol na chodi ymwybyddiaeth o'r argyfwng.”   

 Mae ‘Ymateb i'r argyfwng hinsawdd: cymhwyso gwyddor ymddygiad’ yn cynnig canllaw cyfeirio cyflym i weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy'n gweithio ar bolisi, gwasanaethau neu gyfathrebu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.  Mae'n cynnig dulliau a thechnegau i darfu ar arferion yn well, a hefyd sut i wrthsefyll rhagfarn pennawd sy'n aml yn tanseilio ymdrechion cadarnhaol i newid ymddygiad hinsawdd, gan gynnwys canolbwyntio ar fuddion uniongyrchol (yn hytrach na'r rhai yn y dyfodol pell); llunio cyd-fuddiannau ymddygiadau targed (yr hinsawdd, iechyd a chostau byw); defnyddio cynlluniau, ysgogiadau ac agwedd gadarnhaol; a mabwysiadu dulliau diagnostig ymddygiadol sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn sicrhau'r ymyriadau gorau posibl.