Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliant Cymru yn cyhoeddi strategaeth newydd i gefnogi gwelliant i ddiogelwch cleifion ledled iechyd a gofal yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 17 Medi 2021

Heddiw, ar Ddiwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, mae Gwelliant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn lansio strategaeth ‘Cyflawni Gwella Ansawdd a Diogelwch’ newydd a fydd yn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddarparu Fframwaith Ansawdd a Diogelwch  Llywodraeth Cymru a gyhoeddir heddiw.

Uchelgais Gwelliant Cymru yw cefnogi byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a gwasanaethau gofal gyda'u gwaith i wella diogelwch o fewn eu systemau, gan sicrhau bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon – yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn. 

Ystyriodd y tîm yr heriau a ddatblygodd o ganlyniad i’r pandemig ac adolygwyd ein dull fel ei fod yn ymateb i’r sefyllfa bresennol yn y system iechyd a gofal. Wrth symud ymlaen, byddant yn symud o’r rhaglenni gwaith gwella cenedlaethol i gymorth gwella rhanbarthol a fydd wedi’i deilwra i anghenion lleol.  

Er mwyn helpu i ddarparu’r ffordd newydd hon o weithio, mae Gwelliant Cymru yn lansio rhaglen ddiogelwch newydd hefyd a elwir yn ‘Gofal Diogel Gyda’n Gilydd’ a fydd yn darparu cymorth wedi’i gydlynu’n genedlaethol a’i ddarparu’n lleol i sefydliadau ledled y continwwm gofal. 

Bydd Gofal Diogel Gyda’n Gilydd yn galluogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i gyflawni gwelliannau diogelwch clinigol a gweithredol ar sail tystiolaeth a fydd yn eu helpu i ymgorffori Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2020. Bydd gwaith yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda sefydliadau a byddwn yn cynnig cymorth pwrpasol i’w helpu i greu’r amodau, datblygu’r gallu a gwneud y cysylltiadau er mwyn i’r gwelliannau ffynnu. Mae’r rhaglen yn agored i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth ledled Cymru. 

Darllenwch y strategaeth a rhannwch eich barn am y rhaglen newydd drwy anfon e-bost at improvementcymru@wales.nhs.uk