Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Gwelliant Cymru – 2021–2026

Ein nod yw cefnogi creu system iechyd a gofal o'r ansawdd gorau i Gymru fel bod gan bawb fynediad at ofal diogel, effeithiol ac effeithlon yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn ar draws y system ofal gyfan.

Rydym i gyd yn ymwybodol o sut y gwnaeth y pandemig brofi ein system ofal a thynnu sylw at yr angen i ail-edrych ar ddiogelwch a lleihau niwed.  Dyma ein ffocws yn Gwelliant Cymru, sef cefnogi sefydliadau i reoli ansawdd a diogelwch ar draws gofal yng Nghymru a gwreiddio Deddf Ansawdd Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi adolygu ein dull gweithredu ac wedi datblygu strategaeth newydd a thair blaenoriaeth strategol:

  • Cefnogi sefydliadau iechyd a gofal i ail-ddylunio a gwella'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yn barhaus
  • Cefnogi canolbwyntio ar leihau niwed y gellir ei osgoi a diogelwch o fewn systemau gofal
  • Adeiladu gallu gwella yn gynaliadwy yn y system iechyd a gofal

Mae ein Strategaeth Gwelliant Cymru 2021–2026 newydd – Cefnogi Gwella Ansawdd a Diogelwch, yn amlinellu ein ffocws newydd ac yn disgrifio sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni hyn gyda chi.