Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i wella 2018-19: Sut y gwnaethom ymdrin â chwynion a chanmoliaeth.

Yn 2018-19, ymchwiliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i 59 o gwynion ffurfiol o dan ein gweithdrefn Gweithio i Wella, sef cynnydd bach o saith o 52 y llynedd. 

Rydym hefyd yn annog ein staff i ymdrin â chwynion ‘yn y fan a'r lle’ pryd bynnag y bo'n briodol.  Yn ystod 2018/19 cawsom 72 o gwynion ‘yn y fan a'r lle’ sy'n gynnydd  bach o gymharu â 2017/18. 

Meddai Gay Reynolds, Rheolwr Llywodraethu a Chyffredinol yn adran Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod gwerth rheoli cwynion yn effeithiol a'r dysgu sefydliadol dilynol sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwella gwasanaethau, swyddogaethau a rhaglenni.  Felly rydym yn croesawu cyfleoedd i ddysgu o brofiadau pobl, da neu ddrwg.”

Mae'r rhan fwyaf o'r adborth a gafwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â rhannau o'r sefydliad sy'n ymdrin yn uniongyrchol â'r cyhoedd. Mae’n bwysig ein bod yn cofnodi canmoliaeth a chwynion.

Yn 2018-19, sgriniodd ein Hadran Sgrinio 629,000 o gyfranogwyr.  Mae canran y pryderon a gafwyd gan yr Adran Sgrinio o gymharu â nifer yr unigolion sy'n cael eu sgrinio tua 1 fesul 12,096 o'r rhai a sgriniwyd ac mae'n cynrychioli 0.008% o'r gweithgarwch sgrinio.

Cawsom hefyd dros 1700 o ganmoliaethau gan aelodau o'r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau o bob rhan o'r sefydliad gan ddangos cymhareb o 29:1 o ganmoliaethau i gwynion.

Cafodd mwyafrif y canmoliaethau eu cyflwyno i ddiolch i aelodau o staff yn ein Hadran Sgrinio gydag adborth yn canmol agwedd gadarnhaol a phroffesiynoldeb ein staff, ynghyd ag adborth cadarnhaol am y gwasanaeth a phrydlondeb y canlyniadau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bob amser yn ymdrechu i wella'r gwasanaethau a gynigiwn. Os oes gennych unrhyw adborth ar unrhyw rai o'n gwasanaethau, yn dda neu'n ddrwg, rydym yn eich annog i anfon neges e-bost i: general.enquiries@wales.nhs.uk gyda'ch meddyliau. 

Adroddiad:

Adroddiad Blynyddol Gweithio i Wella 2018-2019