Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar frech y mwncïod

Cyhoeddwyd: 22 Mehefin 2022

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (22 Mehefin) yn cadarnhau bod dau achos ychwanegol o frech mwnci wedi’u nodi yng Nghymru. Mae hyn yn dod â’r cyfanswm yng Nghymru i wyth.  Mae'r achosion yn cael ei reoli'n briodol.  I ddiogelu cyfrinachedd cleifion, ni fydd rhagor o fanylion yn ymwneud â'r cleifion yn cael eu datgelu.”
 

Cyhoeddwyd: 16 Mehefin 2022

Dywedodd Richard Firth, Ymgynghorydd mewn Amddiffyn Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (16 Mehefin) yn cadarnhau bod un achos ychwanegol o frech mwnci wedi’u nodi yng Nghymru. Mae hyn yn dod â’r cyfanswm yng Nghymru i chwech.  Mae'r achos yn cael ei reoli'n briodol.  I ddiogelu cyfrinachedd cleifion, ni fydd rhagor o fanylion yn ymwneud â'r claf yn cael eu datgelu.”
 

Cyhoeddwyd: 14 Mehefin 2022

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (14 Mehefin) yn cadarnhau bod un achos ychwanegol o frech mwnci wedi’u nodi yng Nghymru. Mae hyn yn dod â’r cyfanswm yng Nghymru i bump.  Mae'r achos yn cael ei reoli'n briodol.  I ddiogelu cyfrinachedd cleifion, ni fydd rhagor o fanylion yn ymwneud â'r claf yn cael eu datgelu.”

Cyhoeddwyd: 9 Mehefin 2022

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (9 Mehefin) yn cadarnhau bod achos ychwanegol o frech mwnci wedi’i nodi yng Nghymru. Daw hyn â chyfanswm Cymru i bedwar. Mae'r achos yn cael ei reoli'n briodol. Er mwyn diogelu cyfrinachedd cleifion, ni fydd unrhyw fanylion pellach yn ymwneud â’r claf yn cael eu datgelu.”

Cyhoeddwyd: 6 Mehefin 2022

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (6 Mehefin) yn cadarnhau bod un achos ychwanegol o frech mwnci wedi’u nodi yng Nghymru. Mae hyn yn dod â’r cyfanswm yng Nghymru i dri.  Mae'r achos yn cael ei reoli'n briodol.  I ddiogelu cyfrinachedd cleifion, ni fydd rhagor o fanylion yn ymwneud â'r claf yn cael eu datgelu.”

Cyhoeddwyd: 3 Mehefin 2022

Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (3 Mehefin) yn cadarnhau bod un achos ychwanegol o frech mwnci wedi’u nodi yng Nghymru. Mae hyn yn dod â’r cyfanswm yng Nghymru i ddau.

“Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd Gogledd Iwerddon, ac rydym yn barod i ymateb i achosion o frech y mwncïod yng Nghymru.

“Mae'r achos yn cael ei reoli'n briodol.  I ddiogelu cyfrinachedd cleifion, ni fydd rhagor o fanylion yn ymwneud â'r claf yn cael eu datgelu.

“Rydym yn rhoi sicrwydd i bobl nad yw brech y mwncïod fel arfer yn lledaenu'n hawdd rhwng pobl, ac mae'r risg gyffredinol i'r cyhoedd yn isel iawn.  Mae fel arfer yn salwch ysgafn hunangyfyngol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig wythnosau.  Fodd bynnag, gall salwch difrifol ddigwydd mewn rhai unigolion.

“Ymhlith symptomau cychwynnol brech y mwncïod mae twymyn, pen tost/cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, nodau lymff chwyddedig, oerfel a blinder.  Gall brech ddatblygu, dan ddechrau'n aml ar yr wyneb, yna lledaenu i rannau eraill o'r corff, yn enwedig y dwylo a'r traed.  Mae'r frech yn newid ac yn mynd drwy wahanol gamau cyn magu crachen, sy'n disgyn yn ddiweddarach.

“Gofynnir i bawb fod yn ymwybodol o symptomau brech y mwncïod, ond mae'n bwysig bod dynion hoyw a deurywiol yn effro gan y credir ei bod yn lledaenu mewn rhwydweithiau rhywiol.

“Dylai unrhyw un sydd â brechau neu friwiau anarferol ar unrhyw ran o'u corff gysylltu â GIG 111 neu ffonio gwasanaeth iechyd rhywiol os oes ganddynt bryderon.”

Mae achosion o frech y mwncïod yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn cael eu hadrodd ar wefan UKHSA.

 

Cyhoeddwyd: 26 Mai 2022

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Iau 26 Mai) yn cadarnhau bod achos o frech y mwncïod wedi'i nodi yng Nghymru.

“Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd Gogledd Iwerddon, ac rydym yn barod i ymateb i achosion o frech y mwncïod yng Nghymru.

“Mae'r achos yn cael ei reoli'n briodol.  I ddiogelu cyfrinachedd cleifion, ni fydd rhagor o fanylion yn ymwneud â'r claf yn cael eu datgelu.

“Rydym yn rhoi sicrwydd i bobl nad yw brech y mwncïod fel arfer yn lledaenu'n hawdd rhwng pobl, ac mae'r risg gyffredinol i'r cyhoedd yn isel iawn.  Mae fel arfer yn salwch ysgafn hunangyfyngol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig wythnosau.  Fodd bynnag, gall salwch difrifol ddigwydd mewn rhai unigolion.

“Ymhlith symptomau cychwynnol brech y mwncïod mae twymyn, pen tost/cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, nodau lymff chwyddedig, oerfel a blinder.  Gall brech ddatblygu, dan ddechrau'n aml ar yr wyneb, yna lledaenu i rannau eraill o'r corff, yn enwedig y dwylo a'r traed.  Mae'r frech yn newid ac yn mynd drwy wahanol gamau cyn magu crachen, sy'n disgyn yn ddiweddarach.

“Gofynnir i bawb fod yn ymwybodol o symptomau brech y mwncïod, ond mae'n bwysig bod dynion hoyw a deurywiol yn effro gan y credir ei bod yn lledaenu mewn rhwydweithiau rhywiol.

“Dylai unrhyw un sydd â brechau neu friwiau anarferol ar unrhyw ran o'u corff gysylltu â GIG 111 neu ffonio gwasanaeth iechyd rhywiol os oes ganddynt bryderon.”

Mae achosion o frech y mwncïod yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn cael eu hadrodd ar wefan UKHSA.

Cwestiynau Cyffredin 

Beth yw brech y mwncïod?

Mae brech y mwncïod yn salwch prin sy'n aml yn gysylltiedig â theithio i Ganol a Gorllewin Affrica, mae fel arfer yn salwch ysgafn nad yw'n lledaenu'n hawdd rhwng pobl ac mae fel arfer yn gwella ar ei ben ei hun, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig wythnosau.

Er y credir bod y risg i'r boblogaeth gyffredinol yn isel, o gofio bod nifer o achosion yn y DU nad ydynt yn gysylltiedig â theithio dramor, rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac ymchwilio iddi.

Beth yw symptomau brech y mwncïod?

Os ydych yn cael eich heintio â brech y mwncïod, mae fel arfer yn cymryd rhwng 5 a 21 diwrnod i'r symptomau cyntaf ymddangos.

Mae symptomau cyntaf brech y mwncïod  yn cynnwys:

  • twymyn
  • pen tost/cur pen
  • poenau yn y cyhyrau
  • poen cefn
  • chwarennau chwyddedig
  • crynu (oerfel)
  • blinder eithafol

Mae brech fel arfer yn ymddangos 1 i 5 diwrnod ar ôl ymddangosiad twymyn, dan ddechrau'n aml ar yr wyneb, yna lledaenu i rannau eraill o'r corff, gan gynnwys yr organau cenhedlu, y dwylo a'r traed. Mae'r frech yn newid ac yn mynd drwy wahanol gamau, a gall edrych fel brech yr ieir, cyn magu crachen, sy'n disgyn yn ddiweddarach.

Mae'r symptomau fel arfer yn clirio mewn 2 i 4 wythnos.

Sut y mae brech y mwncïod yn lledaenu? 

Gellir lledaenu brech y mwncïod pan fydd person yn dod i gysylltiad agos â pherson sydd wedi'i heintio â'r feirws neu eitemau wedi'u heintio y mae'r person wedi'i heintio wedi cyffwrdd â nhw. 

Mae'r feirws yn dod i mewn i'r corff drwy groen wedi torri (hyd yn oed os nad yw'n weladwy), y llwybr anadlu, neu'r pilenni gludiog (llygaid, trwyn, neu geg). 

Mae lledaenu o berson i berson yn anghyffredin, ond gall ddigwydd drwy'r canlynol:

  • Cyffwrdd â dillad, dillad gwely neu dywelion a ddefnyddiwyd gan berson sydd wedi'i heintio
  • Cyffwrdd â briwiau croen neu grachod brech y mwncïod, yn enwedig os oes gan eich croen eich hun friwiau neu doriadau
  • Peswch neu disian person sydd wedi'i heintio

Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n credu bod gennyf frech y mwncïod?

Os ydych yn credu bod gennych symptomau brech y mwncïod – pa mor ysgafn bynnag dylech wneud y canlynol:
 

  • Cysylltu â GIG 111 neu ffonio clinig iechyd rhywiol ar unwaith. Bydd eich galwad yn cael ei thrin yn sensitif ac yn gyfrinachol.
  • Dylech osgoi cysylltiad personol neu rywiol ag eraill nes eich bod wedi ymgynghori â gweithiwr meddygol proffesiynol. 

Peidiwch â mynd yn uniongyrchol i'ch meddygfa, cysylltwch â chlinigau cyn eich ymweliad ac osgoi unrhyw gysylltiad agos ag eraill nes i chi gael eich gweld gan glinigydd. Bydd eich galwad neu'ch trafodaeth yn cael ei thrin yn sensitif ac yn gyfrinachol.

A oes modd trin brech y mwncïod?

Er mai prin yw'r triniaethau gwrthfeirysol penodol sydd ar gael ar gyfer brech y mwncïod, mae'r salwch fel arfer yn ysgafn ac ni fydd angen triniaeth ar y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi'u heintio a byddant yn gwella ar eu pen eu hunain o fewn ychydig wythnosau. 

A oes brechlyn ar gael ar gyfer brech y mwncïod ac a fyddwch yn ei gynnig i bobl?

Nid oes brechlyn penodol i frech y mwncïod, ond mae Imvanex, sef brechlyn wedi'i gynllunio i drin y frech wen, sy'n dod o'r un teulu o feirysau, yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n rhagweithiol i gaffael dosau pellach o'r brechlyn hwn. Gellir cynnig y brechlyn i rai pobl y mae'n hysbys eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos o frech y mwncïod a gadarnhawyd.

Pam ydych chi wedi nodi rhywioldeb yr achosion?

Mae'r achosion diweddaraf yn cyflwyno'n bennaf mewn dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion. Nid oes ganddynt gysylltiadau teithio i wlad lle mae brech y mwncïod yn endemig, felly mae'n bosibl iddynt gaffael yr haint drwy drosglwyddiad yn y gymuned. Gan fod y feirws yn lledaenu drwy gysylltiad agos, rydym yn gofyn i'r grwpiau hyn fod yn effro i unrhyw frechiadau neu friwiau anarferol ar unrhyw ran o'u corff ac i gysylltu â gwasanaeth iechyd rhywiol os oes ganddynt bryderon.

A yw brech y mwncïod yn cael ei lledaenu gan ryw?

Nid yw brech y mwncïod wedi'i disgrifio'n flaenorol fel haint a drosglwyddir yn rhywiol, ond, fel gyda gweithgarwch nad yw'n rhywiol, gellir ei throsglwyddo drwy gysylltiad croen i groen uniongyrchol â briwiau neu grachod yn ystod rhyw.  Gall smotiau heintus, y mae heintiau'n fwyaf tebygol o gael eu trosglwyddo drwyddynt, ymddangos ar unrhyw ran o'r corff felly ni fydd condomau o reidrwydd yn atal trosglwyddo'r feirws rhwng dau berson sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'i gilydd. Gall yr haint hefyd gael ei drosglwyddo drwy gysylltiad â dillad neu lieiniau a ddefnyddiwyd gan berson sydd wedi'i heintio.