Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar lifogydd cyn Storm Eunice

Cyhoeddwyd: 17 Chwefror 2022

Gyda rhybudd tywydd coch am wynt yn ei le, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl ledled Cymru i fod yn wyliadwrus gan y gallai gwyntoedd cryfion a achosir gan Storm Eunice a llanw uchel arwain at lifogydd posibl ddydd Gwener.

Mae’n debygol mai hon fydd un o’r stormydd cryfaf i ni ei phrofi ers sawl blwyddyn ac mae pobl yn cael eu hannog i fod yn ofalus a gweithredu ar y cyngor sy’n cael ei roi gan y gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru, yn ogystal ag asiantaethau eraill.

Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn pryderu am Storm Eunice ac yn cynghori pobl i gymryd pob gofal posibl. Teithiwch dim ond os oes angen a chadwch draw o goetiroedd, yr arfordir ac afonydd.

“Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos ac yn pryderu am y posibilrwydd o lifogydd sylweddol mewn sawl man.

“Cymerwch sylw o'r holl gyngor sy'n cael ei roi gan asiantaethau gwahanol a gofalu am ffrindiau a theulu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi cyngor ar lifogydd a sut i ddelio ag ef. Gall llifogydd effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol, yn y tymor byr neu'r tymor hwy. Mae ein tudalennau yn disgrifio'r hyn y gall pobl ei wneud i ddiogelu eu hiechyd yn ystod ac ar ôl llifogydd. Yn syml, ein cyngor ni yw i gadw allan o ddŵr llifogydd, golchwch eich dwylo ar ôl dod i gysylltiad â dŵr llifogydd neu unrhyw eitem sydd wedi bod mewn dŵr llifogydd a sicrhewch fod ffrindiau, teulu a chymdogion yn derbyn gofal yn ystod llifogydd, yn ystod y cyfnod glanhau a thrwy gydol yr amser y gallai gymryd i fynd yn ôl i'r arfer.

I gael rhagor o wybodaeth

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Amgylcheddol Llifogydd

Gall pobl gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim ar gyfer llifogydd arfordirol a phrif afonydd naill ai drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 24 awr y dydd neu drwy fynd i:

Cyfoeth Naturiol Cymru Llifogydd

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud.

Ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ceir camau ymarferol y gallwch eu cymryd i baratoi ar gyfer llifogydd: 

Paratoi ar gyfer llifogydd