Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi adroddiad Disgwyliad Oes a Marwolaethau yng Nghymru

Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf Disgwyliad Oes a Marwolaethau yng Nghymru 2020  , sy’n disgrifio oedi mewn gwelliannau i ddisgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru yn ddiweddar. 

Nid oes llawer o welliant wedi bod mewn disgwyliad oes yng Nghymru er 2011 ar gyfer gwrywod a benywod, o’i gymharu â’r cyfnod cyn hyn lle cafwyd cynnydd o 2.6 o flynyddoedd a 2 flynedd yn y drefn honno.

Yn yr un modd, nid yw cyfraddau marwolaeth yng Nghymru wedi newid llawer er 2011, ar ôl gostwng bron 20% rhwng 2002 a 2011. Mae arwyddion hefyd bod y bwlch yng nghyfraddau marwolaeth rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru wedi ehangu yn y blynyddoedd diweddar.
Mae dadansoddiadau dadelfennu disgwyliad oes yn amlygu’r grwpiau oedran ac achosion marwolaeth sydd wedi arafu’r gwelliant mewn disgwyliad oes.

Ar gyfer gwrywod a benywod, cafwyd arafu sylweddol o ran gwelliannau yng nghyfraddau marwolaethau yn sgil clefyd cylchrediad y gwaed, gyda chynnydd sylweddol yng nghyfraddau marwolaeth yn sgil dementia a chlefyd Alzheimer. Yn ogystal, nid yw cyfraddau marwolaeth ymysg gwrywod a benywod 60-84 oed bellach yn gostwng yn gyflym, ac mewn rhai enghreifftiau maent wedi dechrau cynyddu.

Mae’r ffenomen hon wedi cael ei gweld mewn gwledydd eraill, ac mae’n newid amlwg o’i gymharu â’r cynnydd cyson mewn disgwyliad oes a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Dr Kirsty Little, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd,

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlygu newid pwysig mewn tueddiadau disgwyliad oes a marwolaethau yn y cyfnod diweddar. Mae disgwyliad oes yn arwydd pwysig o statws iechyd cyffredinol poblogaeth, gyda’r cyhoeddiad hefyd yn dangos arwyddion y gallai anghydraddoldebau iechyd fod wedi cynyddu yn ddiweddar hefyd ac mae hyn yn peri pryder. 

“Mae nifer o ffactorau pwysig yn debygol o fod ar waith a bydd esbonio’r tueddiadau diweddar yn gymhleth.  Gallai'r cyfnod o gyni er 2010/11 fod yn gysylltiedig, ac fel yr amlygodd adolygiad diweddar Syr Michael Marmot, mae'r cysylltiad rhwng cyni ac iechyd sy'n gwaethygu ac anghydraddoldebau iechyd yn "gwbl gredadwy". Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r DU a phartneriaid rhyngwladol i fonitro'r tueddiadau parhaus ac i archwilio ymhellach ac egluro ffactorau a allai fod yn ysgogi'r newidiadau yr ydym wedi eu hamlygu.”

Gellir gweld yr adroddiad ar dudalen Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

Disgwyliad Oes a Marwolaethau yng Nghymru 2020