Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg newydd yn dangos ymwybyddiaeth dda yn sector cyhoeddus Cymru o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a chyfleoedd i wella

Mae gan 75 y cant o gyflogeion sector cyhoeddus Cymru a holwyd ymwybyddiaeth dda o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE). Fodd bynnag, dim ond 36 y cant sy'n teimlo'n hyderus yn eu gwybodaeth a'u sgiliau i helpu i atal ACE yn eu rôl.

Mae adroddiad newydd yn archwilio canfyddiadau arolwg ar-lein Iechyd Cyhoeddus Cymru a gynhaliwyd ym mis Mai a mis Mehefin 2019. Diben yr arolwg oedd deall yn well y wybodaeth am ACE ac ymwybyddiaeth ohonynt ymhlith gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y sector elusennol a'r trydydd sector.

Ymatebodd 3,033 o bobl o 12 sector cyflogaeth, gan roi trosolwg o drawstoriad amrywiol o weithwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Mae canfyddiadau'r arolwg yn cynnwys:

•    Roedd 75% o ymatebwyr wedi clywed am ACE cyn yr arolwg. Roedd yr uchaf o'r rhain yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau ieuenctid (92%) ac elusennol/trydydd sector (90%).
•    Roedd 58% yn ansicr a oedd eu sefydliad yn cefnogi sgiliau a gwybodaeth sy'n seiliedig ar ACE yn ystod cyfnodau recriwtio.
•    Roedd 48% yn ansicr a oedd gan bolisïau eu sefydliad egwyddorion ac arferion sy'n seiliedig ar ACE.
•    Roedd 47% wedi cael cynnig hyfforddiant ffurfiol gan eu cyflogwr neu ddarparwr arall o fewn y 18 mis diwethaf a oedd yn cynnwys gwybodaeth am ACE.
•    Roedd 48% yn teimlo'n hyderus yn eu gwybodaeth a'u sgiliau i liniaru ACE yn eu rôl.

Mae'r canfyddiadau'n dangos lefelau uchel o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ACE ymhlith y gweithlu a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. Dangosodd yr ymatebwyr hefyd ymwybyddiaeth dda o effeithiau ACE ar iechyd corfforol a meddyliol, ond roedd ganddynt lai o ymwybyddiaeth o fesurau atal a lliniaru.

Mae hyn wedi'i nodi fel maes ar gyfer hyfforddi a datblygu yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar deuluoedd a mynd i'r afael â thlodi, ar draws sectorau gwahanol.

Roedd bron hanner y rhai a holwyd wedi cael cynnig hyfforddiant ACE, ac roedd ychydig dros dri chwarter y rhai a aeth ar hyfforddiant gyda chynnwys ACE yn teimlo ei fod wedi gwella eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth. Mae hyn yn dangos sut y mae hyfforddiant ymwybyddiaeth ACE cychwynnol wedi bod yn cael effaith ar wasanaethau a ariennir yn gyhoeddus.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi sawl ystyriaeth allweddol ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

•    Datblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth o ACE gan ganolbwyntio ar atal a gwybodaeth a sgiliau lliniaru. Dylid gwneud hyn gan ddefnyddio dulliau cyd-gynhyrchiol i ymgorffori model cynaliadwy ar draws sefydliadau.
•    Ystyried anghenion hyfforddi gweithlu ehangach Cymru (y tu hwnt i'r sector cyhoeddus) os ydym am ddod yn genedl sydd wir yn ymwybodol o ACE.
•    Cynnal ymchwil yn y dyfodol i ddeall yn well y strategaethau a'r dulliau cenedlaethol a fydd yn cael yr effaith orau ar leihau ACE yng Nghymru.
•    Ystyried archwilio cwmpas ac ehangder yr hyfforddiant ACE a gynigir ar hyn o bryd ledled Cymru i sefydlu beth sy'n gweithio, i bwy a pham.
•    Adeiladu ar waith strategol pellach gyda sefydliadau i hyrwyddo dull cyfannol drwy arfer sefydledig o godi ymwybyddiaeth o ACE mewn arweinyddiaeth sefydliadol, a pholisïau ac arferion sy'n seiliedig ar ACE i'w cefnogi.

Meddai Genevieve Riley, Uwch-ymchwilydd ar gyfer Gwerthuso ac Effaith, y Gyfarwyddiaeth Wybodaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r arolwg yn newyddion cadarnhaol iawn o ran ymwybyddiaeth o ACE  yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ond mae hefyd wedi nodi nifer o feysydd posibl i ganolbwyntio arnynt i gefnogi'r gweithlu ymhellach ar draws sectorau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i'r afael ag ACE a dod hyd yn oed yn fwy seiliedig ar ACE.” 

Adroddiad

Arolwg Cenedlaethol Gwybodaeth am Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACEs)