Neidio i'r prif gynnwy

Gallai pwerau codi trethi Cymru wella iechyd y boblogaeth, yn ôl adroddiad newydd

Mae adolygiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod y gellid defnyddio pwerau codi trethi newydd Cymru i wella iechyd y boblogaeth a lleihau marwolaethau yn sgil clefydau anhrosglwyddadwy. 

Dywedodd Dr Sumina Azam, Pennaeth Polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru a chydawdur yr adolygiad: “Yn y DU mae gennym hanes hir o ddefnyddio trethi i leihau'r defnydd o dybaco ac alcohol, sydd wedi helpu i wella iechyd y boblogaeth.

“Mae canfyddiadau'r adroddiad yn awgrymu bod gan Lywodraeth Cymru gyfle unigryw i ymchwilio i sut y gall ei phwerau codi trethi newydd helpu i wella iechyd y cyhoedd. Gallai cam o'r fath ennyn cefnogaeth y cyhoedd gydag 8 o bob 10 ymatebydd i'r arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru yn cytuno y dylai bwydydd iach gostio ychydig yn llai ac y dylai bwydydd afiach gostio ychydig yn fwy. Dim ond chwech y cant o ymatebwyr a oedd yn anghytuno.”

Canfu'r adolygiad llenyddiaeth fod dulliau newydd o drethu bwydydd sy'n uchel mewn braster, halen neu siwgr wedi helpu i leihau faint o'r bwydydd hynny sy'n cael eu prynu a'u bwyta mewn gwledydd eraill, gan gynnwys ym Mecsico a Hwngari.

Mae'r adolygiad hwn, sydd wedi'i anelu at arweinwyr polisi iechyd, yn ymchwilio i sut y gallai polisïau cyllidol newydd helpu Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, sef sicrhau gostyngiad o draean yn nifer y marwolaethau cynamserol yn sgil clefydau anhrosglwyddadwy - sy'n cynnwys diabetes sy'n gysylltiedig â gordewdra, clefyd cardiofasgwlaidd a mathau o ganser - erbyn 2030. Yng Nghymru, mae gan y Llywodraeth fantais ar ffurf Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n gosod cefndir deddfwriaethol unigryw sy'n sail i bob penderfyniad polisi cyhoeddus.

Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'n bwysig nad yw trethiant yn cael ei ystyried ar ei ben ei hun, ond yn hytrach yn cael ei weld fel offeryn i'w ddefnyddio ar y cyd â pholisïau eraill sy'n canolbwyntio ar iechyd. Er mwyn bod yn effeithiol, efallai y bydd angen ategu ymyriadau treth gyda chymorthdaliadau ar gyfer opsiynau iachach a pholisïau eraill sy'n helpu i leihau ymddygiad sy'n niweidio iechyd, cefnogi pobl sy'n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig, ac arwain defnyddwyr tuag at fwyta'n iachach”.

Wrth sôn am y posibilrwydd o ddefnyddio trethi ychwanegol yng Nghymru, dywedodd awdur arweiniol yr adroddiad Adam Jones o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “O adolygu enghreifftiau rhyngwladol o drethi gyda'r nod o wella iechyd a lleihau'r defnydd o nwyddau afiach, gwelsom wersi gwerthfawr i unrhyw Lywodraeth sy'n ceisio cyflwyno polisi newydd yn y maes hwn.”

Adroddiadau

Cwestiwn o Drethu - Rhestr Geira

Cwestiwn o Drethu - Adroddiad

Cwestiwn o Drethu - Infograffeg