Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Ymddygiadau Iach

Tynnodd Cymru Iachach, cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sylw at yr angen am symud tuag at fwy o ataliaeth ac ymyriad cynnar, er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl, a chefnogi cynaladwyedd ein system iechyd a gofal.

Mae yna lawer o gyfleoedd i gychwyn sgyrsiau am newid ymddygiad, a grymuso pobl i wneud dewisiadau iachach, trwy’r nifer uchel o gysylltiadau rhwng unigolion a gwasanaethau gofal sylfaenol.

Mae’r Ganolfan Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu cyfres o adnoddau, wedi’u cynllunio i baratoi’r gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol ar gyfer cynnal sgyrsiau ag unigolion am fabwysiadu ymddygiadau iach. Mae’r ddau adnodd cyntaf yn y gyfres hon wedi’u teilwra ar gyfer staff sy’n gweithio ym maes (1) meddygaeth teulu a (2) optometreg, ac rydym wrthi’n datblygu fersiynau wedi’u haddasu’n arbennig ar gyfer fferylliaeth gymunedol a glleoliadau deintyddol.

Mae’r adnoddau’n trafod ymddygiadau iechyd allweddol, mewn perthynas ag ysmygu, alcohol, pwysau iach, ymarfer corff, ac atal diabetes math 2, ac maent yn cynnwys yn benodol: 

  • Meysydd ar gyfer gweithgareddau gwella ansawdd

  • Cysylltiadau â hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer y gweithlu

  • Gwybodaeth gryno am fanteision mabwysiadu ymddygiadau iach a niwed ymddygiadau afiach

  • Gwybodaeth am atgyfeirio er mwyn i unigolion gael mynediad at gymorth pellach.

Er bod yr adnoddau hyn wedi'u teilwra i'w defnyddio mewn gwasanaethau dan gontract penodol, mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth yn berthnasol i’r holl staff yn y maes iechyd a gofal.

Cyhoeddiadau / Adroddiadau