Neidio i'r prif gynnwy

Ffilmiau Hyfforddi

Ffilm 1

Mae ffilm wybodaeth `Samplau sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig o ansawdd da – deall gofynion a phrosesau’r labordy’ wedi cael ei datblygu ar gyfer y rhai sy’n cymryd samplau yng Nghymru.
 
Mae’r ffilm yn dangos y broses o brofi sampl sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig ar ôl iddo gael ei dderbyn yn labordy Sgrinio Babanod Newydd-anedig Cymru. Mae’n amlygu pam mae samplau o ansawdd da yn bwysig ac yn rhoi enghreifftiau o samplau o ansawdd gwael a pham maen nhw’n anaddas ar gyfer eu profi.

 

Ffilm 2

Mae Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru wedi cynhyrchu’r ffilm fer hon ar gyfer pobl sy’n cymryd samplau mewn unedau newyddenedigol.
 
Mae’n edrych ar agweddau ar y rhaglen sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig ar gyfer babanod sy’n derbyn gofal mewn unedau newyddenedigol a’r gofynion ychwanegol wrth sgrinio’r babanod hyn.
 
Mae’r ffilm hon hefyd yn dangos beth sydd ei angen er mwyn casglu sampl o ansawdd da.