Neidio i'r prif gynnwy

Adran 7 - Beth mae canlyniad siawns uwch mewn prawf sgrinio cyfunol neu bedwarplyg yn ei olygu?

 

Os yw eich prawf wedi dangos bod gennych siawns uwch o gael babi â syndrom Down (T21) neu siawns uwch o gael babi â syndrom Edwards (T18) neu Patau (T13) (hynny yw, siawns o rhwng 1 mewn 2 ac 1 mewn 150), bydd eich bydwraig neu’ch obstetregydd wedi esbonio canlyniad eich prawf i chi yn fanwl, gan gynnwys eich siawns unigol chi. Cofiwch, po isaf yw’r rhif, yr uchaf yw’r siawns. Felly, er enghraifft, mae 1 mewn 80 yn siawns uwch o gael babi â syndrom Down o gymharu ag 1 mewn 140.

Mae rhwng 2% a 3% (dwy a thair mewn 100) o fenywod sydd wedi cael prawf sgrinio yn cael canlyniad sy’n dangos bod ganddynt siawns uwch o gael babi ag un o’r cyflyrau hyn.

Os ydych yn disgwyl gefeilliaid byddwch wedi cael trafodaeth fanwl gydag obstetregydd neu fydwraig cyn cael eich prawf cyfunol. Mae hyn oherwydd bod y penderfyniadau yn fwy cymhleth gan fod llawer o faterion i’w hystyried. Bydd y drafodaeth wedi cynnwys gwybodaeth am y math o efeilliaid rydych yn eu cael a beth allai hynny ei olygu o ran y siawns y bydd gan un neu’r ddau fabi y cyflyrau y sgriniwyd amdanynt.

Gan fod gennych ganlyniad siawns uwch, eich dewisiadau yw:

  • dim rhagor o brofion
  • NIPT, neu
  • brofion mewnwthio
     

Dim rhagor o brofion

Bydd rhai menywod eisiau paratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod gan eu babi neu eu babanod gyflwr cromosomaidd, a bydd eraill yn penderfynu peidio â pharhau â’r beichiogrwydd.

Gallwch drafod a ydych eisiau cael prawf cyn geni anfewnwthiol (NIPT) neu brawf mewnwthiol.

Efallai y byddwch yn wynebu penderfyniadau anodd ar ôl prawf mewnwthiol ac mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r rheini ymlaen llaw. Os yw’r prawf mewnwthiol (samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis) yn dangos mai dim ond un babi sydd â’r cyflwr, gall y penderfyniad i barhau â’r beichiogrwydd ai peidio fod yn un anodd iawn. Gall dod â’r beichiogrwydd i ben ar gyfer y babi â’r cyflwr achosi i chi gamesgor y gefell arall hefyd. Bydd eich obstetregydd yn trafod hyn gyda chi yn fanylach.