Neidio i'r prif gynnwy

Adran 5 - Beth sy'n digwydd os oes gennyf i, neu dad y babi, hanes teuluol neu'n cario newid cromosomaidd neu enetig neu os yw'r naill neu'r llall ohonom wedi cael beichiogrwydd yn y gorffennol sydd â chyflwr cromosomaidd neu enetig?

Bydd hyn yn dibynnu ar y math o newid cromosomaidd neu enetig yr ydych chi neu dad y babi yn ei gario. Gallwn:

  • gynnig atgyfeiriad i chi neu dad y babi i eneteg feddygol i drafod eich opsiynau
  • gynnig prawf gwaed i bartner yr unigolyn sy’n cario newid cromosomaidd i brofi a oes siawns bod gan eich babi’r newid cromosomaidd, neu
  • gynnig prawf samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis i chi i weld a oes gan eich babi’r newid cromosomaidd.

Os byddwn yn cynnig prawf CVS neu amniosentesis i chi, dylech fod yn ymwybodol y gall y ddau brawf hyn achosi camesgoriad.