Neidio i'r prif gynnwy

Adran 12 - Beth yw prawf caryoteip?

Mae’r prawf labordy hwn yn cymryd mwy o amser na’r prawf QF-PCR ond bydd yn canfod mwy o newidiadau cromosomaidd. Nid yw’r prawf hwn yn cael ei gynnal ar gyfer canlyniadau sgrinio siawns uwch yn y prawf cyfunol neu bedwarplyg neu NIPT, oni bai bod gan eich babi syndrom Down (T21), syndrom Edwards (T18) neu syndrom Patau (T13). Bydd y labordy yn cynnal prawf caryoteip i weld a fydd hyn gan unrhyw fabanod eraill y gallech eu cael yn y dyfodol y cyflwr.
Er mwyn cynnal y prawf hwn, mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif amniotig neu o’r samplu filws corionig (CVS) yn cael eu tyfu yn y labordy (mae hyn yn cymryd tua 10 i 14 diwrnod calendr). Bydd staff y labordy yn archwilio’r celloedd o dan ficrosgop er mwyn chwilio am newidiadau yn nifer ac ymddangosiad cromosomau eich babi.

Er mwyn cynnal y prawf hwn, mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif amniotig neu  o'r samplu filws corionig (CVS) yn cael eu tyfu yn y labordy (mae hyn yn cymryd tua 10 i 14 diwrnod calendr). Bydd staff y labordy yn archwilio’r celloedd o dan ficrosgop er mwyn chwilio am newidiadau yn nifer ac ymddangosiad cromosomau eich babi.

Ni fydd y prawf caryoteip yn canfod:

  • newidiadau i enynnau unigol, fel ffeibrosis systig (mae pob cromosom yn cynnwys miloedd o enynnau)
  • microddileadau (colli mân ddarnau o gromosom) neu,
  • fân newidiadau eraill i gromosomau.
     

Canlyniadau’r prawf caryoteip

Mae’r canlyniadau hyn yn barod o fewn tua phythefnos fel arfer.

Weithiau mae’n cymryd mwy o amser i gwblhau’r profion hyn, a bydd angen i chi aros ychydig ddyddiau ychwanegol. (Nid yw hyn yn golygu bod mwy o siawns bod problem gyda’ch babi)

Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd y canlyniad caryoteip yn rhoi canlyniad nad yw’n glir. Bydd eich obstetregydd yn trafod hyn gyda chi os bydd hyn yn digwydd.

Bydd y prawf caryoteip yn dangos rhyw eich babi. Os nad ydych eisiau gwybod beth yw rhyw eich babi, dywedwch wrth eich bydwraig neu’ch obstetregydd.