Neidio i'r prif gynnwy

Adran 10 - Beth yw amniosentesis?

Prawf lle bydd obstetregydd yn tynnu swm bach (tua 15 i 20 mililitr) o’r hylif amniotig o amgylch eich babi yn eich croth yw amniosentesis. Mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif hwn yn gallu cael eu profi yn y labordy er mwyn edrych ar y cromosomau. Fel arfer mae prawf amniosentesis yn cael ei wneud ar ôl 15 wythnos o feichiogrwydd.

Mae cael amniosentesis yn creu risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% (tua 1 mewn 200) o feichiogrwydd. Mae’r risg o ychwanegol gamesgoriad ar ôl amniosentesis mewn beichiogrwydd gyda gefeilliaid tua 1% (1 mewn 100) o feichiogrwydd.

Mae camesgoriad yn fwyaf tebygol o ddigwydd hyd at dair wythnos ar ôl yr amniosentesis. Nid oes neb yn gwybod pam mae hyn yn digwydd nac i bwy y bydd yn digwydd. Mae’n gallu digwydd p’un a oes gan eich babi newid cromosomaidd ai peidio.

Oherwydd bod amniosentesis yn brawf arbenigol, efallai na fydd yn bosibl i chi ei gael yn lleol. Yn lle hynny, efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad mewn uned famolaeth arall.

Os oes gennych haint fel HIV, hepatitis B neu hepatitis C, efallai y bydd angen gwybodaeth a chyngor pellach arnoch chi gan feddyg sy’n arbenigo mewn clefydau heintus cyn i chi benderfynu cael amniosentesis.

Bydd eich bydwraig neu obstetregydd yn gallu esbonio’r prawf i chi. Chi sydd i benderfynu a ydych am gael y prawf hwn ai peidio.

Os byddwch yn penderfynu cael y prawf amniosentesis, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd yn cytuno i’r prawf hwn cyn ei gynnal.

 

Paratoi ar gyfer amniosentesis

  • Gallwch gael brecwast neu ginio ysgafn cyn eich apwyntiad.
  • Bydd angen i’ch pledren fod yn llawn ar gyfer y sgan y byddwch yn ei gael cyn yr amniosentesis.
  • Efallai y bydd rhaid i chi wagio eich pledren ar gyfer y prawf amniosentesis ei hun.
  • Efallai y byddwch yn fwy cyfforddus yn gwisgo dillad llac.
  • Gallwch ddod â’ch partner neu ffrind gyda chi i’ch cefnogi yn ystod ac ar ôl y prawf, ond peidiwch â dod ag unrhyw blant gyda chi.
  • Os yw’n bosibl, dylech drefnu i rywun eich gyrru adref.

 

Cael prawf amniosentesis

Mae’r prawf ei hun yn cymryd tua 10 munud a byddwch yn ei gael fel claf allanol, yn y clinig cyn geni fel arfer. Byddwch yn effro yn ystod y prawf, ac yn gorwedd i lawr.

Byddwch yn cael sgan uwchsain cyn yr amniosentesis. Mae hyn er mwyn cadarnhau safle’r babi ac i ddod o hyd i’r lle gorau i gymryd y sampl o’r hylif o du mewn eich croth. Bydd eich abdomen yn cael ei lanhau gyda hylif gwrthfiotig er mwyn lleihau’r risg o haint. Mae’r obstetregydd yn rhoi nodwydd drwy eich croen a wal eich croth ac yna’n cymryd sampl fach o’r hylif o amgylch eich babi. Bydd yr obstetregydd yn gwylio’r sgan uwchsain er mwyn gwybod lle i roi’r nodwydd ac er mwyn osgoi mynd yn rhy agos at eich babi. Efallai y bydd y prawf hwn yn teimlo ychydig yn anghyfforddus

Weithiau ni fydd yn bosibl cynnal y prawf oherwydd safle’r babi. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yr obstetregydd yn awgrymu cynnal y prawf ar ddiwrnod arall.

Mae siawns fach na fydd yr obstetregydd yn gallu casglu unrhyw hylif amniotig o amgylch eich babi. Mae hyn yn golygu na fydd yn bosibl gwneud y prawf. Efallai y bydd yr obstetregydd yn awgrymu y dylid gwneud y prawf ar ddiwrnod arall.

Byddant hefyd yn gofyn i chi am sampl gwaed er mwyn i’r labordy fod yn siŵr mai canlyniadau ar gyfer eich babi yw’r rhai maen nhw’n ei gael o’r amniosentisis ac nid canlyniadau ar eich cyfer chi.

 

Beth sy’n digwydd ar ôl y prawf?

Ar ôl y prawf dylech orffwys yn y clinig am hyd at 30 munud. Efallai y cewch boenau yn eich bol ar ôl y prawf, yn debyg i boenau misglwyf.

Os oes gennych grŵp gwaed Rhesws-negatif, byddwch yn cael cynnig pigiad anti-D ar ôl y prawf. Mae hyn er mwyn lleihau’r siawns o wrthgyrff yn datblygu yn eich gwaed, sy’n gallu digwydd os mai Rhesws-negatif yw grŵp gwaed eich babi.

Efallai y bydd rhai obstetryddion yn eich cynghori i beidio gwneud gormod am ychydig ddyddiau ar ôl y prawf, ac osgoi cael rhyw, osgoi codi unrhyw beth trwm a pheidio â gwneud ymarfer corff egnïol. Ni fydd angen i chi aros yn eich gwely drwy’r amser.

Os cewch unrhyw boen neu deimlad anghyfforddus, gallwch gymryd y dos arferol o paracetamol.

Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn teimlo’n normal eto ar ôl dau ddiwrnod.

 

Beth y dylech gadw golwg amdano

  • Poen difrifol, na allwch ei reoli drwy gymryd poenladdwyr ysgafn (fel paracetamol).
  • Unrhyw waedu neu unrhyw redlif annymunol o’ch gwain.
  • Unrhyw hylif sy’n gollwng o’ch gwain.
  • Os byddwch yn teimlo’n sâl yn ddirybudd, gyda thymheredd uchel neu symptomau tebyg i’r ffliw.

Nid yw’r symptomau hyn bob tro’n golygu bod problem, ond mae’n bosibl y bydd angen gofal a sylw pellach arnoch. I gael cyngor, cysylltwch â’r canlynol:

  • y clinig lle cawsoch chi’r amniosentesis, neu
  • eich bydwraig