Bydd dod o hyd i ganser y coluddyn yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i chi oroesi. Mae o leiaf 9 o bob 10 unigolyn yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod yn gynnar.
Gall prawf sgrinio'r coluddyn helpu i ganfod canser y coluddyn yn gynnar, hyd yn oed os ydych yn iach ac nad oes gennych unrhyw symptomau.
Gallwch gwblhau pecyn profi’r coluddyn gartref.
Mae pecyn profi’r coluddyn yn gyflym ac yn hawdd i'w gwblhau a dim ond un sampl bach o bŵ sydd ei angen.