Neidio i'r prif gynnwy

Ynglyn a Sgrinio Coluddion

Beth yw sgrinio'r coluddyn?

Mae sgrinio'r coluddyn yn chwilio am ganser y coluddyn cyn i'r symptomau ymddangos. Bydd o leiaf 9 o bob 10 unigolyn yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar. Nod prawf sgrinio'r coluddyn yw dod o hyd i ganser yn gynnar pan fo triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol.

Mae prawf sgrinio'r coluddyn yn golygu cwblhau pecyn profi gartref. Mae’r prawf sgrinio yn chwilio am waed cudd yn eich pŵ.

Bydd pobl rhwng 51 a 74 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio'r coluddyn bob 2 flynedd.

 

Ynglŷn â Chanser y Coluddyn

Canser y coluddyn yw un o'r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae dros 2,200 o achosion newydd o ganser y coluddyn yn cael eu diagnosio bob blwyddyn yng Nghymru.

Mae canser y coluddyn yn fwy cyffredin wrth i chi fynd yn hŷn. Mae'r rhan fwyaf o achosion o ganser y coluddyn yn cael eu diagnosio mewn pobl dros 50 oed.

Mae canser y coluddyn yn effeithio ar y coluddyn mawr, sy’n cynnwys y colon a’r rectwm. Fe'i gelwir hefyd yn ganser y colon a’r rhefr

Mae'r celloedd yn eich corff fel arfer yn rhannu ac yn tyfu mewn modd rheoledig. Pan fydd canser yn datblygu, mae'r celloedd yn newid a gallant dyfu mewn modd ni ellir ei reoli.

Mae'r rhan fwyaf o ganserau'r coluddyn yn datblygu o bolypau. Twf bach ar leinin y coluddyn yw polyp. Nid yw pob polyp yn datblygu'n ganser. Os canfyddir polypau, gellir eu tynnu i'w hatal rhag datblygu'n ganser.

Darganfod mwy am arwyddion a symptomau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:

Canser y coluddyn - GIG (www.nhs.uk) (Saesneg yn unig)
Canser y Coluddyn | Bowel Cancer UK (Saesneg yn unig)

 

Pam mae cymryd rhan mewn prawf sgrinio’r coluddyn yn bwysig?

Bydd cymryd rhan mewn prawf sgrinio'r coluddyn pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd.

Mae sgrinio'n bwysig oherwydd:

  • Mae’n gallu dod o hyd i ganserau cyn i'r symptomau ymddangos
  • Os bydd canser yn cael ei drin yn gynnar, bydd yn rhoi'r siawns orau i chi oroesi.

Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo'n iawn hyd yn oed os oes gennych ganser y coluddyn cynnar.

 

Pa mor gywir yw profion sgrinio'r coluddyn?

Cwblhau pecyn profi’r coluddyn bob 2 flynedd yw'r ffordd orau o ganfod canser y coluddyn yn gynnar. Mae'r prawf sgrinio’r coluddyn yn chwilio am waed cudd yn eich pŵ ond nid yw pob canser yn gwaedu. Mae hyn yn golygu y mae’n bosibl na fydd rhai mathau o ganser yn cael eu canfod.

Nid yw prawf sgrinio'r coluddyn 100% yn gywir.

Bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar.

Gallwch gael canser y coluddyn ar unrhyw adeg. Mae'n bwysig siarad â'ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau hyd yn oed os ydych wedi cwblhau eich pecyn profi’r coluddyn yn ddiweddar.

 

Hanes y teulu

Mae rhai pobl mewn mwy o berygl o gael canser y coluddyn am ei fod yn rhedeg yn eu teulu.

Efallai y bydd eich meddyg yn eich cyfeirio at Wasanaeth Geneteg Cymru Gyfan os oes gennych hanes teuluol.

Os ydych yn poeni am ganser y coluddyn sy'n rhedeg yn eich teulu, siaradwch â'ch meddyg neu dilynwch y ddolen i wefan y Gwasanaeth Genetig i gael rhagor o wybodaeth. (Saesneg yn unig)

 

 

Darganfod mwy