Neidio i'r prif gynnwy

Eich gwahoddiad

Pwy gaiff ei sgrinio?

Bydd unigolion rhwng 51 a 74 oed, sydd wedi cofrestru gyda meddyg yng Nghymru, yn cael cynnig prawf sgrinio'r coluddyn bob 2 flynedd.

Mae'r rhaglen yn ehangu i gynnwys pobl 51 a 54 oed, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno'n raddol dros 12 mis. Bydd pobl yn cael eu gwahodd yn awtomatig rhwng mis Hydref 2023 a mis Medi 2024.

Os oes gennych unrhyw symptomau canser y coluddyn neu os ydych yn poeni am hanes teuluol o ganser y coluddyn, peidiwch ag aros am eich pecyn profi’r coluddyn. Mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda’ch meddyg.
 

Sut y caf wahoddiad?

Bydd Sgrinio Coluddion Cymru yn anfon pecyn profi’r coluddyn atoch yn y post bob 2 flynedd.

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn derbyn eich manylion cyswllt a gaiff eu cadw gan eich meddygfa. Mae’n bwysig fod gan eich meddyg eich enw a’ch cyfeiriad cywir, fel arall mae’n bosibl na fyddwn yn gallu anfon eich pecyn profi’r coluddyn atoch. Os nad ydych wedi’ch cofrestru gyda meddyg, cysylltwch â ni i wirio os gallwch gael prawf sgrinio’r coluddyn.

Mae’n bosibl y gwahoddir rhai pobl i gael prawf sgrinio’r coluddyn nad oes ei angen arnynt.  Mae’n bosibl na fyddwn yn gwybod a ydych eisoes yn cael eich trin ar gyfer canser y coluddyn, neu'n cael gofal dilynol.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymryd rhan mewn sgrinio.
 

Beth os bydd angen help arnaf i ddeall yr wybodaeth?

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen help i ddeall neu ddarllen yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon, cysylltwch â ni. Gallwn roi gwybodaeth i chi mewn fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth, efallai yr hoffech ymweld â'n tudalennau Hawdd eu Deall, BSL, Sain a Fideo.

 

 

Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd

Gan fod costau byw uwch yn effeithio ar lawer ohonom, mae’n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael gan y GIG.

Er nad yw cymorth ariannol ar gyfer mynychu apwyntiadau sgrinio arferol yn cael ei ddarparu o dan reolau’r Adran Iechyd, mae’n bosibl y bydd rhai pobl sydd angen dod yn ôl am brofion pellach yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Mae ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG yn rhoi canllawiau clir i bobl ynghylch pryd y gellir darparu cymorth ariannol. Mae gan y cynllun feini prawf cymhwysedd llym. I'r rhai sy'n gymwys, mae'r cynllun yn cefnogi'r gost o deithio i'r ysbyty neu eiddo arall y GIG ar gyfer triniaeth a ariennir gan y GIG neu brofion diagnostig.

I weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i dudalennau gwe ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIGam ragor o wybodaeth neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

Ewch i’n tudalennau gwe costau byw i gael rhagor o wybodaeth  icc.gig.cymry/costau-byw

Darganfod mwy