Neidio i'r prif gynnwy

Eich canlyniadau

Ein nod yw anfon eich llythyr canlyniadau drwy'r post o fewn pythefnos ar ôl i chi gwblhau eich pecyn profi’r coluddyn.

Bydd eich meddyg yn cael copi o’ch canlyniadau hefyd.

Bydd y mwyafrif o unigolion (98 o bob 100) yn derbyn canlyniad na fydd angen profion pellach arnynt.

Os na chanfyddir gwaed yn eich sampl o bŵ, cewch eich gwahodd eto ymhen 2 flynedd nes i chi gyrraedd 74 oed. 

Bydd nifer fach o unigolion (2 o bob 100) yn cael eu gwahodd i gael profion pellach gan fod gwaed wedi cael ei ganfod yn eu pŵ. Nid yw hyn yn golygu bod gennych ganser. Gall y canlyniad fod wedi'i achosi drwy waedu o bolypau (tyfiannau bach) neu gyflyrau eraill megis hemoroidau (y peils).

Os byddwn yn canfod gwaed yn eich pŵ, gofynnir i chi wneud apwyntiad dros y ffôn gyda Nyrs Sgrinio a fydd yn eich asesu ac yn trafod profion pellach. Os cewch wahoddiad am brofion pellach mae’n bwysig eich bod yn mynychu.

Ceir rhagor o wybodaeth am apwyntiadau asesu yn y daflen ‘Beth sy’n digwydd nesaf?’. 
 

Beth fydd yn digwydd yn fy apwyntiad asesu?

Bydd y Nyrs Sgrinio yn siarad â chi ynglŷn â chael profion pellach gan gynnwys colonosgopi. Gofynnir cwestiynau i chi i weld a fyddwch yn gallu cael colonosgopi. Bydd hyn yn cynnwys trafod:

  • Eich iechyd cyffredinol
  • Eich cyflyrau meddygol (fel diabetes neu asthma)
  • Llawdriniaethau y gallech fod wedi'u cael
  • Meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd ar hyn o bryd

Mae colonosgopi yn ffordd o edrych ar leinin eich coluddyn mawr, i weld a oes unrhyw glefyd. Mae tiwb gyda golau bach a chamera ar un pen yn cael ei roi yn eich pen-ôl, i edrych ar leinin eich coluddyn mawr. Gellir gweld y lluniau ar sgrin fel y gellir eu gwirio ar gyfer polypau, clefyd neu llid.

Mae'r prawf hwn yn caniatáu i samplau bach (biopsïau) o'ch coluddyn gael eu cymryd os oes angen.

Os canfyddir polypau gellir eu tynnu i'w hatal rhag datblygu'n ganser.

Bydd y Nyrs Sgrinio yn trafod eich canlyniadau ac unrhyw apwyntiadau pellach y gallai fod eu hangen arnoch.

 

Beth os fydd angen triniaeth arnoch? 

Os cewch ddiagnosis o ganser y coluddyn, mae dod o hyd iddo'n gynnar yn rhoi'r cyfle gorau o gael triniaeth lwyddiannus. Byddwn yn trafod yr holl opsiynau triniaeth gyda chi er mwyn i chi wneud eich penderfyniad.

Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth ewch i Bowel Cancer UK (Saesneg yn unig)

 

Beth os bydd angen cymorth ychwanegol arnaf?

Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi, neu rywun rydych chi'n ei gefnogi ar gyfer yr apwyntiad asesu, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni os:

  • Bydd angen apwyntiad wyneb yn wyneb arnoch.
  • Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
  • Oes gennych anabledd, fel y gallwn sicrhau ein bod yn cynnig apwyntiad hygyrch i chi.
  • Ydych yn gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
  • Bod gennych atwrneiaeth dros iechyd a llesiant ar gyfer yr unigolyn a wahoddir.

Darganfod mwy