Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu amdanoch eich hun

Gall canser y coluddyn achosi nifer o arwyddion a symptomau.

Bydd dod o hyd i ganser y coluddyn yn gynnar yn rhoi’r siawns orau i chi o gael triniaeth lwyddiannus.

Gofynnwch i’ch meddyg wirio unrhyw newidiadau. Peidiwch ag aros am eich pecyn profi’r coluddyn.

Arwyddion a symptomau i gadw llygad amdanynt:

B - Gwaedu (B) o’ch pen ôl neu waed yn eich pŵ

O - Newid parhaus (O) neu anesboniadwy yn arferion eich coluddyn

W - Colli pwysau (W) heb esboniad

E - Blinder mawr (E) am ddim rheswm amlwg

L - Lwmp (L) neu boen yn eich bol

Gall y symptomau hyn gael eu hachosi gan nifer o gyflyrau, nid canser yn unig. Os ydych wedi sylwi ar unrhyw un o'r symptomau hyn, siaradwch â'ch meddyg.

Ewch i’n tudalennau Cadw’n Iach i ddysgu rhagor am yr hyn y gallwch ei wneud i gadw’n iach.

Darganfod mwy