Byddwn yn dweud wrthych os ydym wedi gweld retinopathi cefndirol (rhywfaint) yn eich ffotograffau. Nid oes angen ymchwilio ymhellach i hyn. Nid yw dod o hyd i'r newidiadau hyn yn golygu y bydd y retinopathi yn parhau i waethygu. Weithiau bydd y newidiadau’n ymddangos ac yna'n diflannu eto.
Byddwch yn cael eich gwahodd pan fydd yn bryd i chi gael eich apwyntiad sgrinio. Mae'n bwysig eich bod yn mynd i’ch apwyntiad pan fyddwch yn cael eich gwahodd.
Mae'n bwysig cadw'n iach, drwy reoli a thrin eich diabetes. Ewch i Diabetes management | taking care of your diabetes | Diabetes UK neu siaradwch â'ch gweithiwr iechyd proffesiynol i gael gwybodaeth bellach.
Mae'r ddelwedd isod yn enghraifft o newidiadau retinopathi cefndirol. Os edrychwch yn ofalus mae smotiau coch bach iawn sy'n dangos rhai pibellau gwaed yn gollwng.