Neidio i'r prif gynnwy

Eich canlyniadau

Byddwch yn derbyn eich canlyniadau yn y post o fewn wyth wythnos i'ch apwyntiad. Bydd eich meddyg a’ch arbenigwr diabetes (os oes un gennych chi) hefyd yn derbyn copi. 

Cysylltwch â ni os na fyddwch wedi derbyn eich canlyniadau o fewn wyth wythnos neu os oes gennych gwestiynau am y canlyniadau.

Bydd y llythyr y byddwch yn ei dderbyn yn dweud wrthych a oes gennych retinopathi diabetig ai peidio a beth fydd yn digwydd nesaf.

Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl retinopathi diabetig a byddant yn cael eu gwahodd pan fydd yn bryd iddynt dderbyn eu hapwyntiad sgrinio nesaf.

Bydd gofyn i rai pobl gael prawf arall.  Gofynnir iddynt wneud hyn am nad oedd modd i ni roi canlyniad o'r ffotograffau a dynnwyd  Nid yw hyn yn anarferol.

Bydd eich llythyr canlyniadau yn dweud wrthych a oes gennych retinopathi diabetig.  Bydd yn dweud wrthych a oes angen profion neu driniaeth bellach arnoch.  Gall hyn fod gydag optometrydd arbenigol neu mewn ysbyty. Byddant yn anfon apwyntiad atoch os bydd angen profion neu driniaeth bellach arnoch.


Esboniad o'ch canlyniadau

Asesir pob llygad ar gyfer gradd retinopathi a macwlopathi.

Retinopathi yw niwed i'r pibellau gwaed sy'n cyflenwi cefn y llygad (y retina). Rydym yn graddio retinopathi drwy roi gradd R o 0 i 3 iddo. 

Macwlopathi - Weithiau, rydym yn gweld rhywbeth mewn rhan benodol o gefn eich llygad o’r enw’r macwla. Rydym yn graddio macwlopathi drwy roi gradd M o 0 i 1 iddo.

Ni fydd y llythyr canlyniad yn cynnwys gradd y retinopathi rydym wedi'i chanfod. Rhennir gwybodaeth fanylach gyda'ch meddyg a'ch arbenigwr diabetig (os oes un gennych chi).

Cysylltwch â ni neu gyda'ch meddyg os hoffech dderbyn crynodeb manylach o'ch canlyniadau. 

Mae'r math o ganlyniadau rydym yn eu darparu fel a ganlyn:
 

 

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael fy ngalw yn ôl am brofion pellach?

Gan ddibynnu ar ganlyniadau eich prawf sgrinio, efallai y gofynnir i chi gael apwyntiadau sgrinio yn fwy aml. Efallai y byddwn hefyd yn eich atgyfeirio at arbenigwr llygaid am asesiad a thriniaeth bellach.  Bydd yr arbenigwr llygaid yn cysylltu â chi gyda manylion eich apwyntiad.

Cysylltwch â'r clinig os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch. 


Beth fydd yn digwydd nesaf?

Os nad oedd eich ffotograffau'n ddigon clir i roi canlyniad, cynigir apwyntiad arall i chi o fewn tri mis.  

Os ydych yn cael apwyntiad dilynol mewn clinig llygaid mewn ysbyty, ni fyddwch yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio nes i chi gael eich rhyddhau gan arbenigwr llygaid.

Os ydych yn feichiog, byddwch yn cael cynnig prawf sgrinio'n fwy aml yn ystod eich beichiogrwydd.

Os nad ydych yn gallu cymryd rhan mewn prawf sgrinio llygaid diabetig cysylltwch â'ch optegydd lleol a fydd efallai'n gallu ymweld â’ch cartref.  Gall rhai optometryddion ymweld â chi am ddim, yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Cysylltwch â'ch optegydd neu gyda’ch  meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg.  Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.  

Darganfod mwy