Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu amdanoch chi eich hun

Pethau y gallwch eu gwneud i gadw’n iach:


•    Rheoli eich diabetes, gan gynnwys gwirio'ch glwcos yn eich gwaed a chymryd eich meddyginiaeth fel y rhagnodir.  Mynd i Diabetes management | taking care of your diabetes | Diabetes UK i gael gwybodaeth bellach.
•    Ewch i’ch apwyntiadau diabetes. 
•    Ewch i’ch apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig pan fyddwch yn derbyn gwahoddiad – mae profion sgrinio llygaid diabetig yn rhan o reoli eich diabetes.  Mae modd trin retinopathi diabetig, yn enwedig os bydd yn cael ei ddarganfod yn gynnar.
•    Ewch i’ch prawf llygaid gyda'ch optegydd pan fydd yn bryd i chi wneud hynny - mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn wahanol i'r prawf llygaid y byddwch yn ei gael gan eich optegydd.  
•    Siaradwch â'ch optegydd neu’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg.   

Ewch i’n tudalennau Cadw’n Iach i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud i gadw’n iach.

Arwyddion a Symptomau

Gall retinopathi diabetig achosi nifer o arwyddion a symptomau.

Pethau i gadw llygad amdanynt:
•    Newid sydyn neu raddol i’ch golwg.
•    Colli eich golwg yn sydyn mewn un llygad neu yn y ddwy.
•    Gweld siapiau (brychau) neu oleuadau'n fflachio yn eich maes golwg.
•    Mae eich golwg yn mynd yn niwlog heb ddim rheswm.
•    Mae gennych boen llygad neu gochni yn y llygad.
Siaradwch â'ch optegydd neu’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg.  Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio llygaid diabetig nesaf.   

Darganfod mwy