Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Sgrinio Llygaid Diabetig

Beth yw sgrinio llygaid diabetig?

Diabetes yw prif achos colli golwg y gellir ei atal yn y DU.1 
1Diabetes UK Diabetic Retinopathy. Available at: Diabetic retinopathy | Diabetes and eye problems | Diabetes UK [Cyrchwyd ar: Tachwedd 2022] Ar gael yn Saesneg yn unig.

Os oes gennych ddiabetes, gall siwgr uchel yn y gwaed (glwcos) neu newidiadau mawr mewn lefelau siwgr yn y gwaed niweidio cefn y llygad (retina).  Gelwir hyn yn retinopathi diabetig. Ni sylwir ar y newidiadau cynnar hyn i'ch retina yn aml. Gall prawf sgrinio llygaid diabetig ddarganfod newidiadau yn eich llygaid cyn iddynt effeithio ar eich golwg.

Mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn golygu tynnu ffotograffau o'ch llygaid i wirio am newidiadau.

Bydd pawb sy'n 12 oed neu'n hŷn sydd wedi derbyn diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 ac sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio llygaid diabetig.

Os ydych wedi derbyn diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i ni (Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru).  Byddwn yn anfon llythyr atoch yn eich gwahodd gyda dyddiad ac amser ar gyfer apwyntiad bob tro y bydd yn bryd i chi gael prawf sgrinio llygaid diabetig.

Os na chanfu eich dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig, byddwch bellach yn cael eich sgrinio bob dwy flynedd.   Mae hyn oherwydd rydych yn wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig.  .  Os canfyddir newidiadau, byddwch yn cael eich sgrinio’n amlach.

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg, cysylltwch â’ch practis optometreg.  Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.

Darganfod mwy am arwyddion a symptomau

Ynglŷn â retinopathi diabetig

Mae colli golwg oherwydd retinopathi diabetig wedi lleihau ers dechrau sgrinio.2

2 Scanlon PH. The contribution of the English NHS Diabetic Eye Screening Programme to reductions in diabetes-related blindness, comparisons within Europe, and future challenges - PMC (nih.gov) Acta Diabetol. 2021 Apr;58(4):521-530. [Cyrchwyd ar: Tachwedd 2022] Ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae retinopathi diabetig yn gyflwr a all effeithio ar unrhyw un sydd â diabetes math 1 neu fath 2.  Mae'n achosi niwed i'r pibellau gwaed sy'n cyflenwi cefn y llygad (y retina). 

Dros amser, gall siwgr uchel yn y gwaed neu newidiadau mawr mewn lefelau siwgr yn y gwaed wneud i'r pibellau gwaed ollwng neu gael eu blocio. Os na fydd yn cael ei drin, gall niweidio'ch golwg. Gall retinopathi diabetig gymryd blynyddoedd lawer i ddatblygu ac yn aml, ni cheir unrhyw symptomau amlwg.  

Mae'r ddelwedd gyntaf (ar y chwith) yn dangos llygad heb unrhyw retinopathi yng nghefn y llygad (y retina). Mae'r ail ddelwedd (ar y dde) yn dangos llygad â newidiadau retinopathi diabetig, ac mae’r pibellau gwaed yn gollwng.

Mae dod o hyd i newidiadau cynnar yn golygu y gallwch gael triniaeth i’ch atal rhag colli eich golwg.  Mae mynd am brawf sgrinio llygaid diabetig ar ôl cael eich gwahodd yn bwysig oherwydd gall ddarganfod newidiadau’n gynnar, cyn i chi sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg. Gellir monitro unrhyw newidiadau wedyn a'ch atgyfeirio am driniaeth mewn ysbyty os oes angen.

Mae'n bwysig cadw'n iach, drwy reoli a thrin eich diabetes. Ewch i Diabetes management | taking care of your diabetes | Diabetes UK neu siaradwch â'ch gweithiwr iechyd proffesiynol i gael gwybodaeth bellach. 


 

Pam mae profion sgrinio llygaid diabetig yn bwysig?

Mae mynd i gael eich prawf sgrinio llygaid diabetig yn un o'r pethau y gallwch chi ei wneud i ofalu am eich golwg.

Mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn bwysig oherwydd:
•    Gall sgrinio ddod o hyd i newidiadau yn eich llygaid cyn iddynt ddechrau effeithio ar eich golwg.
•    Nid yw retinopathi diabetig fel arfer yn achosi unrhyw symptomau yn ystod y camau cynnar. 
•    Gall monitro a thriniaeth arafu neu wrthdroi newidiadau a achosir gan retinopathi diabetig.
•    Gall retinopathi diabetig achosi dallineb os na fydd yn cael ei ddiagnosio a'i drin. 

 

 

Darganfod mwy