Neidio i'r prif gynnwy

Eich apwyntiad

Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?

Cynhelir sgrinio mewn ysbytai, canolfannau iechyd, practisiau meddygon teulu a rhai lleoliadau cymunedol. 

Ein nod yw eich gwahodd i’r lleoliad sydd agosaf at eich cartref, o fewn 45 munud mewn car.  Bydd hyn yn dibynnu ar y lleoliad a'r apwyntiadau sydd ar gael.

Mae’n bwysig bod gan eich meddyg eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn cywir, fel arall efallai na fyddwn yn gallu anfon eich llythyr apwyntiad atoch.

Newid fy apwyntiad

Cysylltwch â ni os na allwch ddod i’ch apwyntiad.  Efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad neu leoliad mwy cyfleus i chi.

Mae apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig yn gyfyngedig.  Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu peidio â dod i’ch apwyntiad; gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol ar gyfer sgrinio, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad os:
•    Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
•    Oes gennych ofynion symudedd neu anabledd, fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn cynnig apwyntiad hygyrch i chi.
•    Bydd angen apwyntiad hirach arnoch. 
•    Ydych chi’n meddwl efallai na fyddwch yn gallu eistedd yn y safle iawn wrth ein camerâu.





•    Ydych chi’n gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
•    Oes gennych Atwrneiaeth dros iechyd a llesiant yr unigolyn a wahoddir, bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod a’r ddogfen Atwrneiaeth i’w apwyntiad.

 

Paratoi ar gyfer fy apwyntiad.

Cyn eich apwyntiad:
•    Darllenwch yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch.
•    Cysylltwch â ni os bydd angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad.
•    Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae eich apwyntiad.
•    Cynlluniwch sut y byddwch yn cyrraedd, gan ganiatáu digon o amser i deithio.
•    Ni fydd yn ddiogel i chi yrru ar ôl eich apwyntiad a gall fod yn anodd defnyddio ffôn symudol.   Bydd angen i chi drefnu cludiant adref cyn i chi fynd i'ch apwyntiad.
•    Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i chi dalu i barcio yn rhai o’r lleoliadau sgrinio.
•    Dylech chi neilltuo o leiaf un awr ar gyfer eich apwyntiad.
•    Dewch â'ch sbectol gyda chi, os ydych yn eu gwisgo. 
•    Os ydych yn gwisgo lensys cyffwrdd, dewch â'ch cynhwysydd gan y gofynnir i chi dynnu'ch lensys ac efallai na fyddwch yn gallu eu rhoi yn ôl i mewn ar unwaith.   Efallai y byddai'n well gennych wisgo'ch sbectol ar ddiwrnod eich apwyntiad.
•    Dewch â sbectol haul gyda chi i'w gwisgo ar ôl eich apwyntiad, oherwydd gall eich llygaid fod yn fwy sensitif i olau ar ôl cael diferion.
•    Os ydych yn defnyddio monitor glwcos yn y gwaed, cymerwch y darlleniadau cyn eich apwyntiad. 
•    Efallai y byddwch am ddod â byrbryd gyda chi gan nad yw pob lleoliad sgrinio yn cynnig bwyd a diod.
•    Nid yw'n ddiogel i chi yrru na defnyddio peiriannau nes bod eich golwg yn dychwelyd i normal a bod eich llygaid yn gyfforddus. 

Darganfod mwy