Neidio i'r prif gynnwy

Eich gwahoddiad

Pwy sy’n cael ei sgrinio? 

Bydd pawb sy'n 12 oed neu'n hŷn sydd wedi derbyn diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 ac sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio llygaid diabetig.

Os na chanfu eich dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig, byddwch bellach yn cael eich sgrinio’n ddiogel bob dwy flynedd. Mae hyn oherwydd rydych yn wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig.  Os canfyddir newidiadau, byddwch yn cael eich sgrinio’n amlach.

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg, cysylltwch â’ch practis optometreg.  Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.

 
Ni fydd pobl sydd â'r cyflyrau canlynol yn cael eu gwahodd:
•    Diabetes yn ystod beichiogrwydd, sy'n gyflwr dros dro yn ystod beichiogrwydd. 
•    Cyn-ddiabetes (a elwir hefyd yn oddefiad diffygiol i glwcos), sy'n gyflwr lle mae gennych lefelau glwcos gwaed uwch na'r arfer.

Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig na fydd:
•    Yn elwa ar sgrinio o bosibl. 
•    Yn gallu mynychu a chwblhau apwyntiad o bosibl. 
Siaradwch â'ch gweithiwr iechyd proffesiynol os ydych yn teimlo na fyddai unrhyw fantais i chi fynd i brawf sgrinio llygaid diabetig.

Efallai na fydd rhai pobl yn gallu cymryd rhan mewn prawf sgrinio llygaid diabetig.  Cysylltwch â'ch optegydd lleol a fydd efallai'n gallu ymweld â’ch cartref.  Gall rhai optometryddion ymweld â chi am ddim, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. 

Os ydych yn cael eich trin ar gyfer retinopathi diabetig, nid oes angen i chi gael eich sgrinio.  Byddwch yn cael eich ail-wahodd unwaith y byddwch wedi eich rhyddhau.

Gall retinopathi diabetig ddatblygu ar unrhyw adeg.  Mae'n bwysig siarad â'ch optegydd neu'ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg, hyd yn oed os ydych wedi bod i gael prawf sgrinio llygaid diabetig yn ddiweddar.
 

Sut y byddaf yn cael fy ngwahodd?

Os ydych wedi derbyn diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i ni (Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru).  Byddwn yn anfon llythyr gwahoddiad atoch gyda dyddiad ac amser ar gyfer apwyntiad, bob tro y mae'n bryd i chi gael sgrinio llygaid diabetig. Gall eich apwyntiad fod yn unrhyw un o'r canolfannau sgrinio isod. Cysylltwch â ni os ydych am newid amser, dyddiad a lleoliad yr apwyntiad

Canolfannau sgrinio ar gyfer sgrinio llygaid diabetig

Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau i'r lleoliadau isod. Peidiwch ag anfon unrhyw lythyrau i'r cyfeiriadau hyn. Os hoffech gysylltu, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â ni.

Gallwch hefyd gael eich sgrinio mewn ysbytai, clinigau symudol neu glinigau cymunedol.

 

Mae’n bwysig bod gan eich meddyg eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn cywir, fel arall efallai na fyddwn yn gallu anfon eich llythyr apwyntiad atoch.

Os ydych wedi derbyn diagnosis o ddiabetes yn ddiweddar, gall gymryd hyd at 12 wythnos i chi dderbyn llythyr gwahoddiad.

Os nad ydych wedi derbyn llythyr yn eich gwahodd ar ôl 12 wythnos, cysylltwch â'ch practis meddygon teulu i roi gwybod iddynt.

Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau am gymryd rhan mewn sgrinio.

 

Beth os bydd angen cymorth ychwanegol arnaf?


Deall yr wybodaeth

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen help i ddeall neu ddarllen yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad. Gallwn roi gwybodaeth i chi mewn fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth efallai yr hoffech ymweld â'n tudalen Adnoddau Hygyrch.

 

Mynd i fy apwyntiad

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol ar gyfer sgrinio, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad os:  
•    Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
•    Oes gennych anabledd, fel y gallwn sicrhau ein bod yn cynnig apwyntiad hygyrch i chi.
•    Ydych chi’n meddwl efallai na fyddwch yn gallu eistedd yn y safle iawn wrth ein camerâu 

 

•    Oes gennych Atwrneiaeth dros iechyd a llesiant yr unigolyn a wahoddir, bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod a’r ddogfen Atwrneiaeth i’w apwyntiad.
•    Ydych chi’n gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
 

Teithio i fy apwyntiad

Ni fyddwch yn gallu gyrru ar ôl eich apwyntiad oherwydd gallai'r diferion llygaid achosi i'ch golwg fynd yn aneglur am hyd at 6 awr. Bydd angen i chi drefnu lifft neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

Os yw eich apwyntiad mewn lleoliad gofal iechyd a’ch bod yn meddwl eich bod yn gymwys i gael cymorth i deithio i’ch apwyntiad, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Cludo Cleifion yn eich ysbyty lleol. Mae’n bosibl y byddant yn gallu eich helpu.

Cysylltwch â ni os hoffech newid amser, dyddiad neu leoliad eich apwyntiad. 

Cysylltwch â ni os na allwch ddod i’ch apwyntiad.  Efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad neu leoliad mwy cyfleus i chi.
Mae apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig yn gyfyngedig.  Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu peidio â dod i’ch apwyntiad; gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.

 

 

Darganfod mwy