Yn dibynnu ar lefel y retinopatheg diabetig, efallai y cewch eich atgyfeirio i glinig llygaid arbenigol ar gyfer asesiad pellach a thriniaeth.
Gall prawf sgrinio llygaid ganfod retinopatheg nad oes angen ei drin o bosibl. Mae rhan fwyaf o bobl â retinopatheg yn cael eu monitro drwy apwyntiadau sgrinio blynyddol ac nid oes angen eu hatgyfeirio am asesiad pellach neu driniaeth.