Neidio i'r prif gynnwy

A oes angen sgrinio pawb sydd â diabetes?

Oes.  Bydd pawb sy'n 12 oed neu'n hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes ac sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio llygaid diabetig rheolaidd am ddim.

Ni fydd pobl sydd â'r cyflyrau canlynol yn cael eu gwahodd:
• Diabetes yn ystod beichiogrwydd, sy'n gyflwr dros dro. 
• Cyn-ddiabetes (a elwir hefyd yn oddefiad diffygiol i glwcos), sy'n gyflwr metabolig lle mae gennych lefelau glwcos gwaed uwch na'r arfer.

Efallai y bydd rhai pobl nad oes ei angen yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig. Siaradwch â'ch gweithiwr iechyd proffesiynol os ydych yn teimlo na fyddai unrhyw fantais i chi fynd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig.

Os ydych yn cael eich trin ar gyfer retinopathi diabetig, nid oes angen i chi gael eich sgrinio.  Byddwch yn cael eich ail-wahodd unwaith y byddwch wedi eich rhyddhau.