Neidio i'r prif gynnwy

Dwysedd Mannau Gwerthu Bwyd Sydyn yng Nghymru

Fel rhan o astudiaeth ymchwil ehangach sy’n archwilio’r ffactorau risg ar gyfer gordewdra ymhlith plant ar draws y boblogaeth, casglwyd data’r Rhaglen Mesur Plant ochr yn ochr â data o ffynonellau eraill gyda golwg ar ganfod cysylltiadau dichonol. Bydd canlyniadau’r astudiaeth ymchwil ehangach hon yn cael eu hychwanegu yma, unwaith y daw i ben. 

Fel rhan o’r astudiaeth ymchwil ehangach hon, fe amcangyfrifwyd dwysedd y safleoedd gwerthu bwyd sydyn ar gyfer pob 100,000 o breswylwyr yng ngwahanol ardaloedd Cymru. Mae’r adroddiad byr hwn yn disgrifio’r dulliau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu ffigwr ar gyfer dwysedd safleoedd bwyd sydyn ar gyfer pob 100,000 o bobl. Defnyddiwyd data graddfeydd (sgoriau) safonau bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i adnabod y safleoedd perthnasol. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r meini prawf diamwys a ddefnyddiwyd i’w cynnwys a’u diystyru, ynghyd â’r amcangyfrifon ar gyfer ardal pob awdurdod lleol. Cyflwynir hyn wedyn ar ffurf map gwres o Gymru, lle y gellir cymharu’n weledol ddwysedd safleoedd gwerthu bwyd sydyn yn ardaloedd y gwahanol awdurdodau lleol.