Mae sefydlu’r Rhaglen Mesur Plant yn dilyn yr astudiaeth ddichonoldeb lwyddiannus a gynhaliwyd yn 2008/2009 gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chefnogaeth gan sefydliadau eraill.
Argymhellodd yr astudiaeth fod rhaglen genedlaethol taldra a phwysau plentyndod yn cael ei sefydlu i lywio strategaeth a datblygiad gwasanaethau ac i ddarparu’r sylfaen ar gyfer mwy o ymchwil yn y maes.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a dderbyniodd yr adroddiad a’i argymhellion.