Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriwch eich cyfarpar gwresogi a choginio

Mae carbon monocsid yn lladd. Gwnewch yn siŵr bod pob ffliw a simdde wedi’u glanhau gan wirio nad oes dim yn blocio mannau awyru. Os nad oes cysylltiad nwy neu drydan gyda chi a’ch bod yn defnyddio olew, LPG neu gynhyrchion coed i wresogi’ch cartref, gwnewch yn siŵr bod gennych gyflenwad digonol ac na fydd y cyflenwad yn mynd yn brin yn ystod y gaeaf. Hefyd, dylech osod larwm carbon monocsid clywadwy sy’n cydymffurfio ag EN 50291, ond nid yw gosod larwm yn golygu nad oes angen parhau i gynnal a chadw’ch cyfarpar yn rheolaidd.

Darllenwch mwy ar Carbon Monocsid.