Gall tywydd oer achosi peryglon difrifol i iechyd yn cynnwys hypothermia (pan fo tymheredd y corff yn mynd yn is na thymheredd normal a’r corff yn methu ymdopi), cwympiadau ac anafiadau, trawiadau ar y galon, strôc, clefydau anadlol a’r ffliw. Gall effeithiau anuniongyrchol oerni gynnwys salwch iechyd meddwl megis iselder, a gwenwyn carbon monocsid o wresogyddion, offer coginio a boeleri heb eu hawyru’n ddigonol.
Y bobl fwyaf agored i niwed gan dywydd oer yw pobl hŷn, plant ifanc iawn a phobl â chyflyrau meddygol blaenorol.
Gwybodaeth y gellir ei lawrlwytho
Cyngor i'r cyhoedd adeg tywydd oer
Cyngor i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol adeg tywydd oer