Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae radon yn risg i iechyd?

Gall yr elfennau ymbelydrol y mae radon yn eu ffurfio gael eu hanadlu i mewn i'n hysgyfaint. Pan fyddant y tu mewn i'r ysgyfaint, mae'r elfennau hyn yn parhau i allyrru pelydriad sy'n achosi niwed lleol a all arwain at ganser yr ysgyfaint.
 
Mae radon yn achosi dros 1,100 o farwolaethau o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn yn y DU. Mae hanner y marwolaethau hyn yn digwydd ymhlith y rhai sy'n ysmygu ar hyn o bryd.
 
Yr uchaf yw lefelau'r radon a pho hwyaf yw’r cysylltiad ag ef, y mwyaf yw'r risg - yn enwedig os ydych chi'n ysmygu.