Neidio i'r prif gynnwy

Pa lefel o radon ddylai wneud i mi boeni?

Caiff radon ei fesur mewn Becquerels fesul metr ciwbig o aer (Bqm-3). Y lefel gyfartalog yng nghartrefi'r DU yw 20 Bqm-3.
 
Ar gyfer lefelau sy'n is na 100 Bqm-3, mae eich risg unigol yn parhau’n gymharol isel ac ni ddylech boeni. Fodd bynnag, mae'r risg iechyd yn cynyddu wrth i lefel y radon gynyddu.
 
Mewn eiddo domestig mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell y dylid lleihau lefelau radon os yw'r cyfartaledd yn fwy na Lefel Weithredu o 200 Bqm-3. Mae'r Lefel Weithredu hon yn cyfeirio at y crynodiad cyfartalog blynyddol fel y caiff ei fesur gan ddefnyddio dau synhwyrydd (mewn ystafell wely ac ystafell fyw) dros dri mis, i gyfartaledd yr amrywiadau tymor byr.
 
Lefel Darged o 100 Bqm-3 yw'r canlyniad delfrydol ar gyfer gwaith adfer mewn adeiladau presennol a mesurau amddiffynnol mewn adeiladau newydd.
 
Os yw canlyniad asesiad radon rhwng y Lefelau Targed a Gweithredu, dylid ystyried yn ddifrifol dilyn camau i ostwng y lefel, yn enwedig os oes ysmygwr neu rywun oedd yn arfer ysmygu yn y cartref.
 
Ar gyfer gweithleoedd mae deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr mewn ‘ardaloedd â phroblem radon’ asesu cysylltiad â radon.  Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol hefyd i unrhyw weithle lle ceir gweithleoedd dan ddaear, hyd yn oed os nad ydynt mewn ardal â phroblem radon. Daw Rheoliadau Ymbelydriadau Ïoneiddio 2017 i rym pan fydd radon uwchlaw 300 Bqm-3 (cyfartaledd blynyddol) yn bresennol. Rhaid i gyflogwyr gymryd camau i leihau'r cysylltiad â radon yn yr achosion hyn.