Neidio i'r prif gynnwy

Camau i unioni / lleihau cysylltiad

Gall rhai camau syml megis selio o amgylch hatshys atig ac agoriadau mawr mewn lloriau, a sicrhau mwy o ddulliau awyru, leihau cysylltiad. Fodd bynnag, nid ydynt yn gostwng lefelau radon ar eu pen eu hunain. Dylid cyfuno'r camau gweithredu hyn â mesurau effeithiol eraill.
Mae enghreifftiau o fesurau effeithiol yn cynnwys:

  • Pwmp radon - pwmp radon gweithredol, wedi'i ffitio â ffan, yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau lefelau radon dan do. Mae’r pympiau yn gweithio orau o dan loriau solet ac o dan loriau crog os yw'r tir wedi'i orchuddio â choncrid neu bilen. Weithiau, gall pympiau goddefol heb ffan ostwng lefelau radon. 
  • Awyru positif - ffan fach dawel yn chwythu awyr iach, o’r to fel arfer, i mewn i'r adeilad. 
  • Awyru naturiol o dan y llawr - mae gan lawer o gartrefi a rhai gweithleoedd lawr gwaelod crog a lle oddi tano. Gall awyru'r lle yn dda leihau crynodiadau radon. 
  • Awyru gweithredol dan y llawr - defnyddir ffan naill ai i chwythu aer i mewn drwy’r amser neu i dynnu aer allan o'r lle o dan y llawr crog. Gellir defnyddio hyn pan nad yw’r broses awyru naturiol o dan y llawr yn ddigonol i ostwng lefel y radon.