Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Ail-lansio Gwelliant Cymru

Dros gyfnod o ddeuddydd yn gynt yr wythnos hon, croesawom dros 650 o gyfranogwyr o bob cwr o Gymru i ailfeddwl sut rydym ni’n gwella – gyda’n gilydd.

Nid yn unig yr oedd y gynhadledd yn ail-lansio 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella fel Gwelliant Cymru, roedd hefyd yn gyfle i ddod ynghyd i drafod dyfodol Gwelliant yng Nghymru, rhannu ein cynlluniau i helpu’ch cynorthwyo ar eich taith wella a dysgu oddi wrth ein gilydd.

Roedd hi’n wych cael cymaint o brofiad mewn un ystafell a chyfraniadau gan gyfranogwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig dros y deuddydd. Clywom gan amrywiaeth fawr o siaradwyr ar y llwyfan, gan gynnwys trafodaeth banel graff ar ddyfodol Gwelliant yng Nghymru. Cafodd cyfranogwyr gyfle i ddewis o blith wyth gwahanol sesiwn brynhawn a gyflwynwyd ar y cyd ag arbenigwyr Gwelliant o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol. Daeth y diwrnod cyntaf i ben gydag araith ysbrydoledig ar wydnwch gan Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru a Nyrs Gyfarwyddwr GIG Cymru, cyn digwyddiad gwib-rwydweithio’r derbyniad gyda’r nos, lle symudodd y mynychwyr rhwng 31 o fyrddau prosiectau Gwelliant i rannu profiadau. 

Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda mwy o sesiynau grŵp a thrafodaeth melin drafod ar “Sut beth yw da”, gyda chwestiynau i gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy, Prifysgol Cymru a Healthcare Improvement Scotland. Roedd 64 o bosteri prosiectau’n cael eu harddangos yn ystod y gynhadledd – llongyfarchiadau i bob enillydd ac i Mohammed Imran o Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a enillodd y wobr gyntaf. 

Yn ogystal, roedd cyfres o ddosbarthiadau meistr wedi dilyn y gynhadledd i ddatblygu ein rhaglenni Gwelliant Cymru newydd a chynhaliom ddigwyddiad i aelodau Q Cymru.

Ac yntau’n agor y gynhadledd, dywedodd Andrew Goodall Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Mae angen i ni wneud Gwelliant yn wahanol. Mae ymagwedd Gwelliant Cymru yn adeiladu ar brofiad y tîm cenedlaethol sy’n hyrwyddo ac yn gweithredu Gwelliant. Mae’r fframwaith newydd sydd wedi’i roi ar brawf gan y tîm yn annatod i hyn ac maent eisoes yn gweld y canlyniadau.”

Lansiwyd ein cynlluniau newydd ar gyfer Academi Gwelliant Cymru yn y digwyddiad. Bydd yn siop un stop ar gyfer datblygu sgiliau, hyrwyddo ac arweiniad ynghylch gwelliant yng Nghymru, mewn ffordd gyson, unedig sy’n cynnal safonau ac yn ei gwneud hi’n haws dysgu am welliant, ei arfer a’i gyflawni. Bydd yn adeiladu ar lwyddiant ein rhaglen gwella ansawdd gyda’n gilydd, gyda mwy o gyrsiau a chymorth amrywiol ar gael sy’n eich galluogi i gamu ymlaen ar eich taith wella eich hun. Y camau nesaf fydd recriwtio a datblygu cyrsiau. Rhown wybod i chi am hynt a helynt hyn – gallwch ddysgu rhagor yn y fideo hwn.

Yn ogystal, roeddem yn falch o groesawu Penny Pereira, Cyfarwyddwr Q Initiative, The Health Foundation, a gyhoeddodd ein cynlluniau ar gyfer Q Lab Cymru, sef partneriaeth gyda’r Health Foundation yn canolbwyntio ar heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a fydd yn dechrau yng Ngwanwyn 2020. Gofod a thîm o fewn Gwelliant Cymru fydd y Lab, yn cefnogi’r bobl sy’n gweithio ar flaenoriaethau allweddol i ddysgu, arbrofi ac addasu rhaglenni fel y gallant gysylltu cystal â phosibl â realiti newid ar lawr gwlad a chael mwy fyth o effaith. Darllenwch fwy yma.

Meddai John Boulton, Cyfarwyddwr Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, Gwelliant Cymru: “Diolch i bawb a ddaeth i’r gynhadledd; ni fyddai wedi bod yn agos cymaint o lwyddiant heboch chi.

P’un a oeddech yn gyfranogwr, yn rhannu poster, yn rhan o’n paneli, yn arwain un o’r byrddau gwib-rwydweithio, yn arddangos, yn ymuno â ni ar y cyfryngau cymdeithasol, yn siarad yn un o’r sesiynau neu’n cyflwyno anerchiad ar y prif lwyfan, rydym wir yn gwerthfawrogi brwdfrydedd a chyfraniadau pawb.

“Roedd cyffro amlwg yn yr ystafell. Mae’n bwysig i ni bwysleisio mai dim ond dechrau ein taith yw hyn, sef taith rydym ni am fynd arni gyda chi fel y gallwn gyflawni Cymru iachach.”

Byddwn yn lanlwytho cynnwys y gynhadledd i’r rhai a fethodd fynychu cyn hir. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.


Dysgwch am Academi Gwelliant Cymru