Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliant

Beth yw gwelliant?

 

 

Yn y gwaith neu yn ein bywydau adref, rydym ni i gyd yn gwella popeth bob dydd.

Gallai hyn olygu ailddrafftio ffurflenni yn y gwaith, er mwyn iddyn nhw wneud synnwyr i bawb sy’n eu defnyddio nhw. 

Gallai hyn olygu dechrau rhaglen redeg o’r soffa i 5k, neu wella eich cydbwysedd gwaith-bywyd. 

Mae rhai cynigion yn llwyddo – mae rhai yn methu. Ni waeth beth yw’r canlyniad, fodd bynnag, y syniad eich bod chi eisiau gwella sy’n bwysig.

Ond beth yw’r cysyniad i welliant – a sut gall ei helpu ni?

Meddyliwch sut rydych wedi ystyried gwneud sefyllfa’n well:

  • Sut oeddech chi’n gwybod bod rhywbeth ddim yn gweithio?
  • Pwy arall y gwnaethoch ei gynnwys yn eich tîm?
  • Sut gwnaethoch brofi newidiadau i’w wneud yn well?
  • Sut roeddech chi’n gwybod eich bod chi wedi gwneud pethau’n well?
  • A wnaeth y ffordd newydd, well, bara?

Mae gwelliant yn ymwneud â darparu strwythur syml a hawdd i ateb y cwestiynau hyn.

Gwelliant yw dysgu am y system lle rydych chi’n gweithio, profi ffyrdd i wneud iddo weithio’n well i chi, eich tîm, a’r bobl rydych chi’n gofalu amdanynt – i roi’r cyfle gorau iddo lwyddo.

Sut rydych chi’n cyflwyno gwelliant?

Nid yw gwelliannau’n digwydd dros nos: rhaid eu cynllunio a’u cyflwyno’n drefnus mewn modd diogel - i sicrhau bod unrhyw newidiadau a wnewch yn welliannau hirdymor er gwell.

Mae modelau, prosesau a thechnegau i’ch helpu i wneud hyn yn effeithiol; gyda’i gilydd, caiff y rhain eu hadnabod fel ‘Gwyddor Gwelliant’.

Gall Academi Gwelliant Cymru eich helpu i ddysgu mwy am hyn.

Gwasanaethau Gwelliant Cymru

Mae hanfod beth rydym ni’n ei wneud yn dechrau gyda ni’n arwain gwelliant, gan ddefnyddio Fframwaith Gwelliant Cymru a Q Lab Cymru*, rydym ni’n cyflwyno cyfres o raglenni Cymru gyfan Gwelliant Cymru. Trwy’r rhaglenni hyn, rydym ni’n gallu mewnosod ymagwedd gwelliant Cymru gyfan mewn meysydd blaenoriaethol.

Rydym ni’n mewnosod sgiliau gwelliant trwy Academni Gwelliant Cymru. Yng ngham nesaf y daith gwelliant, bydd yr Academi yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, offer, hyfforddwyr a chynghorwyr - a bydd pob un ohonynt yn cael eu hybu gan ein safonau gwelliant Cymru gyfan.

Er mwyn helpu ein pobl i wella’n barhaus, mae’n hanfodol ein bod ni’n hyrwyddo gwelliant yn barhaus. Ni yw’r llais dros welliant yng Nghymru, yn darparu llwyfan i rannu dysgu a straeon gwelliant, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio a chymorth.

*mewn partneriaeth â Q yn y Sefydliad Iechyd


Darganfod mwy

Ewch i adran Academi Gwelliant Cymru i ddechrau ar eich taith gwelliant.