Mae Hyfforddi ar gyfer Diogelwch Cleifion yn rhan o'r Bartneriaeth Gofal Diogel, sydd rhwng byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru, Gwelliant Cymru a'r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI). Nod y bartneriaeth yw hyfforddi a chefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i wella ansawdd a diogelwch gofal ar draws eu systemau.
Hyfforddi ar gyfer Diogelwch Cleifion yw un o'r elfennau craidd yn y Bartneriaeth Gofal Diogel. Mae wedi'i anelu at y rheini ar draws system GIG Cymru sydd eisoes wedi cwblhau rhaglenni dysgu ym maes Gwelliant, fel the Improvement Advisor Programme gan IHI; y Scottish Improvement Leadership Programme (ScIL) neu fod ganddynt gefndir ymarferol mewn gwelliant. Mae Hyfforddi ar gyfer Diogelwch Cleifion yn adeiladu carfan o arbenigwyr hyfforddiant sydd â rôl allweddol o fewn y Rhaglen Gydweithredol Gofal Diogel cenedlaethol (link). Maen nhw’n gweithio gyda thimau, swyddogion gweithredol ac uwch arweinwyr ar gyfer diogelwch o fewn ac ar draws yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau.
Mae Hyfforddi ar gyfer Diogelwch Cleifion yn cynnwys chwe sesiwn hyfforddi hanner diwrnod a gynhelir rhwng Awst a Thachwedd 2022. Mae'n cefnogi datblygiad mewn offer a thechnegau craidd ar gyfer hyfforddiant gweithgareddau gwella diogelwch yn effeithiol ac yn cefnogi'r newid o arwain prosiect gwella i hyfforddi eraill i gyflawni gwelliannau diogelwch cleifion.