Neidio i'r prif gynnwy

Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion

Mae Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion yn elfen allweddol o'r Bartneriaeth Gofal Diogel sydd rhwng byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru, Gwelliant Cymru a'r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI).  Mae'r Bartneriaeth Gofal Diogel yn hyfforddi ac yn cefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i wella ansawdd a diogelwch gofal ar draws eu systemau.

Mae Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion yn rhwydwaith o uwch arweinwyr o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar draws Cymru. Mae'n uno unigolion sydd â nod cyffredin o fwrw ymlaen â gwella ansawdd a diogelwch ac sydd wedi ymgymryd â rhaglen hyfforddi Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion.

Mae gan y rhwydwaith Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion rôl allweddol yn y Gydweithredfa Gofal Diogel. Fel uwch arweinwyr ar gyfer ansawdd a diogelwch, bydd aelodau’r rhwydwaith yn rhan annatod o’r gydweithredfa, gan gefnogi a hwyluso timau eu sefydliad i wneud y mwyaf o gyfleoedd y gydweithredfa. Fel rhwydwaith o arweinwyr mae nhw’n parhau i rannu a dysgu gyda'i gilydd gan ychwanegu cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd i'r bartneriaeth gofal diogel.

Mae Arwain ar gyfer Diogelwch Cleifion yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac mae’n gadael gwaddol sef rhwydwaith gwella parhaus o uwch arweinwyr GIG Cymru.