Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Fforwm Mesurau Canlyniadau

Darperir sesiynau fforwm 1 awr yn rheolaidd trwy Teams i bawb sydd wedi mynd i'r hyfforddiant undydd ar Fesurau Canlyniad.

Mae’r sesiynau fforwm hyn yn cynnwys ystod eang o bynciau i gefnogi cynnydd eich tîm gyda thîm Mesurau Canlyniadau Gwelliant Cymru. Ailadroddir y sesiynau ar raglen dreigl er mwyn sicrhau bod cyfle i gynrychiolwyr tîm ddod i’r fforwm o amgylch eu hymrwymiadau.

Pynciau

Fforwm 1: Dechrau Arni - Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar y Matrics Aeddfedrwydd a'r camau cyntaf posibl i'w cymryd wrth gyflwyno Mesurau Canlyniadau gyda'ch tîm, awgrymiadau defnyddiol a pha gymorth/adnoddau ychwanegol sydd eu hangen.

Fforwm 2: Mapio Prosesau - Mae'r sesiwn hon yn rhoi cyfle i archwilio sut i adolygu a symleiddio prosesau yn eich timau. Rydym yn archwilio'r dulliau a'r offer a all alluogi timau i fapio prosesau eu gwasanaethau yn effeithiol.

Fforwm 3: Trafodaeth am Ddata - Dyma gyfle i ddysgu mwy am y Llyfr Gwaith Coladu Canlyniadau a gyflwynwyd ar y diwrnod hyfforddi. Byddwn yn rhannu adnoddau ychwanegol, yn darparu awgrymiadau defnyddiol a chyfle i ddysgu o'r heriau a'r cyfleoedd rydych chi wedi'u profi yn ymarferol. 

Fforwm 4: Sesiwn Holi ac Ateb am Ddefnyddio’r Offer Mesur Canlyniadau - Mae hwn yn gyfle i’r rhai sy’n mynychu ofyn cwestiynau am unrhyw elfen o’r hyfforddiant. Byddwn yn treulio amser yn edrych ar y wefan er mwyn atgoffa sut i gael gafael ar yr adnoddau sydd ar gael.

Gwybodaeth Archebu

Bydd pob cynrychiolydd tîm yn derbyn e-bost gan dîm Mesurau Canlyniadau Gwelliant Cymru yn ei wahodd i’r sesiynau fforwm. I archebu lle yn y sesiwn, derbyniwch y gwahoddiad Teams ac ymunwch trwy’r ddolen ar yr amser cywir. Os nad ydych yn derbyn gwahoddiad neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau hyn, anfonwch e-bost at y tîm yn: PHW.OutcomeMeasures.Improvementcymru@wales.nhs.uk