Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae ei ganfod?

Mae’n bosibl ei ganfod yn y sganiad ar gyfer anomaleddau a gynigir i fenywod beichiog yn 18fed – 20fed wythnos y beichiogrwydd, a rhwng 2012 a 2016 cafwyd cyfradd ganfod o 44.4%. Mae hi wedi bod yn anodd ei ganfod yn y gorffennol trwy uwchsain cynenedigol gan y gall yr olwg ar bedair siambr y galon ymddangos yn normal. Ond mae dulliau canfod wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf hyn, diolch i ddatblygiadau yn y dechneg uwchsain cynenedigol o ddelweddu’r llwybrau all-lif. Os na chaiff ei ganfod yn gynenedigol eithr yn y cyfnod newydd-enedigol, yna cyflawnir y diagnosis trwy gyfrwng ecocardiogram a sganiadau eraill.