Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r effeithiau ar y ffetws?

Ar ôl y geni, mae symptomau’n ymddangos fel rheol yn ystod dyddiau cyntaf bywyd, sef diffyg anadl ac arwyddion o fethiant ar y galon. Mae angen atgyweiriad llawfeddygol llawn i gau’r nam yn y septwm a gwahanu’r arterïau ysgyfeiniol oddi ar y bongorff arteriol. Mae hyn yn sicrhau canlyniadau da fel arfer, er y bydd angen llawdriniaeth bellach efallai wrth i’r plentyn dyfu. Methiant ar y galon a gorbwysedd ysgyfeiniol yw’r cymhlethdodau adnabyddus. Os na roddir triniaeth, mae’r claf yn arfer marw yn ystod ei fabandod.