Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Yn yr anomaledd hwn, yn lle bod yr arterïau ysgyfeiniol a’r aorta’n bodoli ar wahân, mae un bongorff arteriol mawr yn deillio o ddwy fentrigl y galon. Mae’r anomaledd yn gysylltiedig yn aml â nam mawr yn y septwm fentriglol sy’n gadael i waed wedi’i ocsigeneiddio a heb ei ocsigeneiddio gymysgu yn yr hyn sydd i bob pwrpas yn un fentrigl. O ganlyniad mae llif y gwaed i’r ysgyfaint yn cynyddu, gan achosi caethni yn yr ysgyfaint ac o bosibl hefyd gorbwysedd ysgyfeiniol a all beryglu bywyd y claf. Mae nifer o fathau gwahanol o’r nam hwn wedi cael eu hadnabod, yn unol â natur anatomig y bongorff. Mae truncus arteriosus yn gysylltiedig â sawl anomaledd arall gan gynnwys namau cromosomol, Syndrom DiGeorge, agenesis (diffyg datblygiad) yr arennau a hypoplasia ysgyfeiniol.