Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae Fentrigl Dde â Gollyngfa Ddwbl yn anomaledd cynhenid lle mae’r arteri ysgyfeiniol a’r aorta wedi’u cysylltu ill dau â fentrigl dde’r galon, yn lle bod yr aorta wedi’i gysylltu â’r fentrigl chwith. Mae nam yn bresennol bob amser yn y septwm fentriglol, a gall y bydd anomaleddau cardiaidd eraill yn bresennol yn ogystal, gan gynnwys trawsleoliad yr arterïau mawrion; stenosis y falf ysgyfeiniol; Pedwarawd Fallot; amgaead yr aorta,  a phroblemau yn y falf feitrol. Gall yr anomaledd amrywio o ran ei fath a’i enbydrwydd; a chan ei fod yn cyd-ddigwydd yn aml â rhychwant o anhwylderau cardiaidd eraill, nid yw’r ddogfennaeth amdani bob amser yn ddigonol. Nid oes ffactor achosol genetig adnabyddadwy.