Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r rhagolygon?

Mae plant a enir â thalasemia yn arfer datblygu symptomau rai misoedd ar ôl cael eu geni, ond ni ddaw mathau llai difrifol o thalasemia i’r amlwg efallai tan yn nes ymlaen yn ystod plentyndod. Nid oes gan gludwyr symptomau.

Mae anemia’n broblem sylweddol i’r bobl hynny sy’n dioddef yr anhwylder hwn, y mae angen trallwysiadau gwaed arnynt yn rheolaidd. Fel rheol, bydd angen triniaeth arnynt gydol eu hoes i rwystro’r haearn yn eu gwaed rhag cyrraedd lefelau niweidiol yn sgil y trallwysiadau niferus hyn. Adnabyddir hyn fel therapi celadu. Gall y gorlwyth haearn yn y corff beri cymhlethdodau i’r prif organau, yr esgyrn a hormonau a gysylltir â’r posibilrwydd o fethiant ar y galon, osteoporosis ac aeddfedrwydd gohiriedig neu anghyflawn.

Cysylltir y cymhlethdodau hyn hefyd â risg uwch i’r fam ac i’r baban yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys risg uwch o gardiomyopathi a diabetes yn y fam yn ogystal â chyfyngiad ar dwf y ffetws. Bydd angen therapi ysgogi ofyliad hefyd ar y rhan fwyaf o fenywod â thalasemia i’w galluogi i feichiogi.